Newyddion S4C

S4C

Taliadau 'diolch' i aelwydydd sy'n cynnig noddfa i ffoaduriaid o Wcráin i gynyddu

NS4C 16/03/2023

Bron i flwyddyn ers i'r cynllun Cartrefi i Wcráin ddechrau, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cefnogaeth i bobl sy'n ffoi o'r rhyfel, ac i'r rhai sydd eisoes yng Nghymru i symud i lety hirdymor yn parhau.

Mae dros 6,500 o bobl sydd â noddwr yng Nghymru wedi dianc o Wcráin yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys 3,000 drwy gynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru. 

Roedd cyllideb Llywodraeth Cymru, a gafodd ei phasio yn y Senedd yr wythnos diwethaf, yn amlinellu buddsoddiadau gwerth £40 miliwn i gefnogi pobl o Wcráin sy'n ymgartrefu yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

Yn ôl y llywodraeth, un o'r ffyrdd y bydd y £40 miliwn yn cael ei wario yw drwy glustnodi £2.5 miliwn i alluogi awdurdodau lleol i gynyddu taliadau ‘diolch’ ar gyfer pobl yng Nghymru sy'n lletya gwesteion o Wcráin. 

Mae hyn yn golygu cynnydd o'r £350 y mis ar hyn o bryd i £500 y mis i noddwyr.

'Helpu'

Bydd y taliadau uwch yn cael eu gwneud i bob lletywr o fis Ebrill ymlaen.

Mae'n rhywbeth sy'n cael ei groesawu gan letywyr fel Hollie Webster, sydd yn cynnig llety i westai o'r enw Lydiia o Wcráin yn ei chartref yng Nghaergybi. 

"Mae fy ngŵr a finnau yn ymwybodol o'r amgylchedd a byddwn yn gwneud pob ymdrech i gadw llygad ar y mesurydd clyfar," meddai Hollie.

"Er na welon ni ein biliau'n codi pan gyrhaeddodd Lydiia y llynedd, mae'r argyfwng costau byw bellach yn cael effaith. Felly mae'n wych gwybod bod swm y cymorth a roddir i letywyr fel ni yn codi.

"Bydd y £150 ychwanegol y mis yn ein helpu i liniaru'r costau uwch hynny, ac yn rhoi rhwyd ddiogelwch cyfforddus inni fel y gallwn ni helpu Lydiia am gyhyd ag y mae hi eisiau aros gyda ni."

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt: "Mae pobl o bob cwr o Gymru wedi cynnig helpu, ac wedi dangos trugaredd gwirioneddol ac wedi bod ar gael i helpu teuluoedd y bu rhaid iddynt adael eu cartrefu.

"Rwyf mor falch o'r noddfa rydyn ni'n ei darparu, ac mae llawer o'n gwesteion wedi dweud wrthon ni pa mor ddiolchgar ydyn nhw am y cymorth mae Cymru wedi'i gynnig.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.