Newyddion S4C

Agor archif ddarlledu genedlaethol newydd Cymru yn Aberystwyth

Agor archif ddarlledu genedlaethol newydd Cymru yn Aberystwyth

NS4C 16/03/2023

Bydd hanner miliwn o glipiau fideo o hanes radio a theledu Cymru ar gael i’r cyhoedd wrth i Ganolfan Archif Ddarlledu Cymru agor am y tro cyntaf ddydd Iau.

Wedi ei lleoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, dyma fydd yr archif ddarlledu genedlaethol gyntaf ym Mhrydain.

Dywedodd y Llyfrgell Genedlaethol y bydd yr archif yn trawsnewid mynediad cyhoeddus at ganrif o hanes darlledu Cymru gyda ffilm, fideo a sain iaith Gymraeg a Saesneg wedi’u digido.

Bydd Canolfan Archif Ddarlledu Cymru yn cynnig mynediad digidol at ddeunydd sydd wedi’i gadw mewn sawl fformat dros y degawdau. 

Mae Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, Ashok Ahir yn awyddus i bobl dysgu am hanes Cymru.

"Ar draws cannoedd ar filoedd o glipiau fideo a roddwyd gan BBC Cymru, ITV Cymru ac S4C, mae ganddon ni straeon o bob cornel a chymuned yng Nghymru," meddai.

"Mae rhai yn straeon fel yr adroddwyd nhw wrth Gymru, ac mae eraill yn straeon a adroddwyd gan Gymru. Bydd modd i bobl weld eu hunain yn y straeon maen nhw’n eu gweld a’u clywed.

"Rydyn ni eisiau i bobl ddod i ddysgu, i rannu ac i fwynhau hanes Cymru, nid yn unig yn Aberystwyth, ond ledled Cymru.”

'Eiliadau nodedig'

Bydd modd i ymwelwyr gael mynediad at recordiadau sain o radio’r BBC yng Nghymru o’r 1930au ymlaen, darllediadau teledu gan y BBC a darlledwyr masnachol yng Nghymru, gan gynnwys HTV Cymru ac ITV Cymru, o’r 1950au ymlaen, ac o 1982 ymlaen, holl raglenni S4C.

Bydd eiliadau nodedig yn hanes Cymru wedi’u cofnodi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol drwy eitemau dogfen a newyddion cyffredinol, sy’n trafod digwyddiadau fel boddi Tryweryn, trychineb Aberfan, streiciau’r Glowyr a’r Senedd yn agor, meddai'r Llyfrgell Genedlaethol.

Ychwanegodd Ashok Ahir fod clipiau sy’n dangos pob agwedd ar fywyd yng Nghymru, o ddarllediadau helaeth o chwaraeon Cymru ers y 1940au, i adloniant a drama yn cynnwys opera sebon hynaf y BBC, Pobol y Cwm.

Image
Archif Digdol Llyfrgell Genedlaethol
Llun: Y Llyfrgell Genedlaethol

Yn ôl y Llyfrgell, mae'r arddangosfa barhaol yn defnyddio technoleg ryngweithiol i arddangos uchafbwyntiau’r archif, yn ogystal ag arddangosfa a fydd yn newid yn rheolaidd.

Yn ogystal, bydd gweithgareddau pwrpasol ar gyfer ysgolion a grwpiau ar gael yng Nghanolfan Archif Ddarlledu Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden yn dymuno pob llwyddiant i'r archif.

“Mae creadigaeth Archif Ddarlledu Cymru yn foment arbennig yn natblygiad ein Llyfrgell Genedlaethol ac o ran gwarchod y gofnod orau posibl o’n treftadaeth ddiwylliannol," meddai.

"Rydw i’n hynod o falch taw Cymru yw’r lle cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael archif ddarlledu genedlaethol a’n fodlon iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cyfrannu cyllid er mwyn i’r prosiect allu mynd yn ei flaen. 

"Dymunaf bob llwyddiant i’r tîm yn y Llyfrgell Genedlaethol ac edrychaf ymlaen yn eiddgar i ddilyn hynt yr Archif dros y blynyddoedd i ddod.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.