Newyddion S4C

streiciau prifysgol/ucu

Rhagor o streiciau yng Nghymru gyda sawl sector yn gweithredu

NS4C 15/03/2023

Bydd gweithwyr mewn sawl sector yn streicio yng Nghymru ddydd Mercher.

Fe fydd undeb mwyaf y gwasanaeth sifil - PCS yn streicio wedi i 74.7% o'r aelodau yng Nghymru bleidleisio dros hynny.

Byddant ymhlith y 130,000 a fydd yn streicio ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Mark Serwotka: "Mae ein haelodau gweithgar yng Nghymru yn anhapus a blin oherwydd y modd y maen nhw'n cael eu trin gan lywodraeth sydd yn eu cymryd yn ganiataol."

Yn ogystal, bydd aelodau Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) yn streicio, a bydd hynny yn effeithio ar ddarlithoedd mewn prifysgolion. 

Cyhoeddodd yr undeb fis Chwefror y bydd 70,000 o weithwyr mewn 150 o brifysgolion, gan gynnwys pob prifysgol yng Nghymru, yn streicio.

Pleidleisiodd 80% o'r aelodau o blaid gwrthod y cynnig diweddaraf.

Ni fydd undeb athrawon Undeb yr NEU yn streicio bellach yn dilyn trafodaethau rhwng yr undeb a Llywodraeth Cymru, sydd wedi arwain at gynnig tâl newydd.

Dywedodd yr undeb ar 10 Chwefror fod y cynnig newydd yn cynnwys cyflog ychwanegol o 3% ar gyfer 2022/23 a dyfarniad cyflog 2023/24 a ddaeth i rym ar 1 Medi 2023 yn cael ei gynyddu i 5%.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod y pwysau presennol ar weithwyr y sector cyhoeddus a byddwn yn monitro effeithiau'r streiciau'n ofalus."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.