Y Gyllideb: Beth sydd i'w ddisgwyl gan y Canghellor
Y Gyllideb: Beth sydd i'w ddisgwyl gan y Canghellor

Am y tro cyntaf, bydd y Canghellor Jeremy Hunt yn cyhoeddi ei gyllideb ddydd Mercher.
Daw'r cyhoeddiad fisoedd wedi i'r Canghellor godi trethi ym mis Tachwedd mewn ymgais i geisio sefydlogi sefyllfa ariannol y DU.
Mae disgwyl i'r Canghellor ganolbwyntio ar fesurau i geisio annog pobl i ddychwelyd i'r gweithle, er mwyn ceisio " hybu twf " yn yr economi.
"Yn yr hydref, bu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd i sicrhau sefydlogrwydd ariannol, " meddai.
"Rydym nawr yn datgelu ein cynllun nesaf: Cyllideb i greu twf."
Mae disgwyl i'r Canghellor gyhoeddi'r canlynol yn ei gyllideb, amser cinio ddydd Mercher.
Dychwelyd i'r gwaith
Mae annog pobl i ddychwelyd i'r gweithle yn allweddol i'r gyllideb, meddai Mr Hunt.
Bydd yn ceisio annog pobl dros 50 oed, pobl sydd â salwch hirdymor a phobl anabl, yn ogystal â phobl sydd yn hawlio budd-daliadau a rhieni i ddychwelyd i'r gweithle.
Mae disgwyl iddo roi'r gorau i'r drefn bresennol o asesu pobl sy'n hawlio budd-dal salwch.
Yn ogystal, mae disgwyl i'r Canghellor roi taliadau o flaen llaw i rieni sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ar gyfer gofal plant, a chynyddu'r swm y gallant eu hawlio. Gallai'r cynnydd fod yn werth cannoedd o bunnoedd.
Mae disgwyl i Mr Hunt hefyd gyhoeddi cynllun i ddelio â chostau cynyddol gofal plant yn Lloegr.
Costau Byw
Ben bore Mercher, rai oriau cyn y gyllideb, datgelodd y Canghellor y bydd y gefnogaeth ar gyfer biliau ynni yn parhau am dri mis ychwanegol.
Bydd y cap biliau ynni, sydd yn rhewi bil ar gyfartaledd i ddim mwy na £2,500, yn cael ei ymestyn ar gyfer mis Ebrill, Mai a Mehefin. Mae hynny yn werth £160 ar gyfer pob aelwyd ar gyfartaledd.
Mae disgwyl i'r Canghellor gyflwyno newidiadau ar gyfer mesuryddion rhagdalu, trwy ddod a'r "premiwm rhagdalu" i ben o fis Gorffennaf.
Pensiwn ac Amddiffyn
Yn ôl adroddiadau, mae'r Canghellor yn ystyried codi'r cap ar gyfraniadau blynyddol di-dreth pensiynau i £40,000.
Yn ogystal, fe allai oedran pensiwn y wladwriaeth godi i 68 ynghynt na'r disgwyl.
Wrth i'r rhyfel yn Wcráin barhau, mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi addo £5 biliwn ychwanegol i'r fyddin dros ddwy flynedd, gyda £1.98 biliwn yn ychwanegol eleni a £2.97 biliwn y flwyddyn nesaf ar gyfer amddiffyn.
Cytundebau
Wedi misoedd o streicio ar hyd y GIG, trafnidiaeth ac addysg, mae'n bosib y gall y Canghellor gynnig mwy o fanylion ar ddatrysiad a chytundebau ar gyflog er mwyn ceisio dod a'r streiciau i ben.
Mae undebau sydd yn cynrychioli gweithwyr ambiwlans ac athrawon yng Nghymru eisoes wedi gohirio streiciau yn dilyn cynigion gan Lywodraeth Cymru.