Newyddion S4C

S4C

'Oes newydd' i dîm pêl-droed Cymru wrth gyhoeddi'r garfan ddiweddaraf

NS4C 14/03/2023

Mae "oes newydd" ar fin dechrau i dîm pêl-droed Cymru wrth i Rob Page baratoi i enwi ei garfan ar gyfer dechrau'r ymgyrch ragbrofol i gyrraedd Euro 2024. 

Fe fydd Page yn cyhoeddi'r garfan i wynebu Croatia a Latvia ddiwedd y mis, brynhawn Mawrth. 

Dyma fydd y tro gyntaf i'r garfan ddod at ei gilydd ers i rai o hoelion wyth pêl-droed Cymru gyhoeddi eu bod yn ymddeol o'r tîm rhyngwladol. 

Fe wnaeth Gareth Bale gamu o'r neilltu ym mis Ionawr, cyn i Joe Allen gyhoeddi ei ymddeoliad fis Chwefror a Chris Gunter a Jonny Williams ym mis Mawrth. 

Yn ôl cyn-chwaraewr Cymru a'r sylwebydd pêl-droed, Owain Tudur Jones, fe fydd yna deimlad "go wahanol" ymysg y garfan yn absenoldeb y chwaraewyr profiadol. 

"Mae'r rhestr o chwaraewyr sydd wedi ymddeol yn parhau i dyfu," meddai. 

"Beth mae hynny'n feddwl yw y bydd yr awyrgylch ymysg y garfan yn hollol wahanol na'r arfer, yn sicr i ddechrau.

"Rydym yn sôn am chwaraewyr oedd uchel iawn eu parch ac yn rhan fawr o'r teimlad teuluol ac agosrwydd sydd wedi bod yno yn ystod oes euraidd i bêl-droed Cymru.

"Mae'n debygol o deimlo yn reit od. Mi fydd 'na wagle ar y cae ac oddi arni." 

'Angen camu lan'

Mae dechrau'r ymgyrch ragbrofol ddiweddaraf hefyd yn nodi y tro cyntaf i Gymru chwarae ers siom Cwpan y Byd yn Qatar. 

Gadawodd Cymru y gystadleuaeth heb fuddugoliaeth wedi 58 mlynedd o aros i gystadlu yn y bencampwriaeth. 

Er hynny, fe fydd yn rhaid i Rob Page a'i chwaraewyr anghofio'r perfformiadau siomedig wrth droi eu sylw at Euro 2024, gan anelu i gyrraedd eu trydedd bencampwriaeth Euros yn olynol. 

Mi fyddan nhw'n wynebu clamp o her ar ddechrau'r ymgyrch, gyda thaith i Croatia i wynebu tîm orffennodd yn drydydd yng Nghwpan y Byd y llynedd. 

Gyda bylchau yn y garfan, cynyddu mae'r dyfalu ymhlith y cefnogwyr ynglŷn â phwy all eu llenwi.

Mae Tom Bradshaw o Millwall, Ollie Cooper o Abertawe a Aaron Collins o Bristol Rovers i gyd yn enwau sy'n cael eu crybwyll, a hwythau ar ddechrau eu gyrfa ryngwladol.

Ond yn ôl Owain Tudur Jones, mae'n rhaid i chwaraewyr sefydlog y garfan lenwi bylchau'r chwaraewyr profiadol. 

"Mae'n amser i chwaraewyr eraill gamu i fyny a chyfrannu at ragor o ddyddiau da.

"Dan James, Harry Wilson, tydi rhain ddim yn blant ifanc dim mwy ac mae'n amser iddyn nhw serennu. 

"Mae Aaron Ramsey wedi bod yn o'r prif ddynion hyd yn hyn ond yn absenoldeb Gareth, fo yw'r prif ddyn nawr."

Er bod newidiadau mawr i ddod, mae Owain Tudur Jones yn gobeithio y gall oes euraidd Cymru barhau. 

"Mae yna bryder am gyfnod anodd i ddod i'r tîm cenedlaethol, ond dwi'n meddwl bod yna grŵp rili da.

"Mae'r grŵp yma yn cynnig cyfle gwych i gyrraedd yr Euros nesaf.

"Mae dechrau'r ymgyrch yn holl bwysig, ac mi ydan ni angen o leiaf tri phwynt o'r gemau agoriadol." 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.