Newyddion S4C

S4C

Pobl â chyflyrau hirdymor eraill yn cael mynediad at wasanaethau Covid-19 hir

NS4C 14/03/2023

Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyhoeddi y bydd pobl â chyflyrau hirdymor eraill yn cael mynediad at wasanaethau Covid-19 hir Cymru.

Bydd y gwasanaethau adfer yn y gymuned yn parhau i gefnogi pobl gyda Covid-19 hir ond byddant hefyd ar gael i bobl â chyflyrau hirdymor eraill.

Gall hyn gynnwys pobl ag enseffalomyelitis myalgig/syndrom blinder cronig (ME/CFS), ffibromyalgia a chyflyrau eraill yn dilyn feirws.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi rhagor o fuddsoddiad er mwyn cefnogi'r ap adfer hunan-reoli Covid-19 a’r canllawiau Cymru gyfan ar gyfer rheoli Covid-19 hirdymor.

Mae Gwasanaethau Adferiad yn rhoi diagnosis, triniaeth, cymorth adsefydlu, a gofal i bobl sy’n profi effeithiau hirdymor yn sgil Covid-19.

Ers lansio’r rhaglen Adferiad yn 2021, dywedodd y llywodraeth fod mwy na £10 miliwn wedi’i fuddsoddi i gefnogi datblygu’r gwasanaethau adfer a’r gwasanaethau adsefydlu yn y gymuned ym mhob ardal o'r byrddau iechyd.

'Blaenoriaeth'

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Mae buddsoddi mewn gwasanaethau Adferiad i gefnogi pobl sy’n dioddef effeithiau hirdymor Covid-19 wedi bod yn flaenoriaeth i ni ac mae hynny’n parhau.

"Mae gennym ased cymunedol gwerthfawr o ganlyniad i ddatblygu’r gwasanaethau hyn, ac mae’n rhaid i ni barhau i’w feithrin ac i fanteisio arno.  

“Gwyddom fod llawer o bobl â chyflyrau hirdymor eraill wedi teimlo yn ‘anweledig’ a theimlo nad oedd pobl yn eu deall.

"Drwy ehangu mynediad at wasanaethau adferiad gallwn roi gwell cymorth i bobl â chyflyrau fel ME/CFS a ffibromyalgia i gael diagnosis, rheoli eu symptomau a chael mynediad at wasanaethau adferiad sy’n hanfodol i helpu i wella iechyd a llesiant corfforol a meddyliol. 

Dywedodd Claire Madsen, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Rydym wrth ein boddau o fod wedi cael y cyllid rheolaidd hwn.

"Bydd yn ein galluogi i recriwtio i nifer o swyddi, diogelu swyddi, a sefydlu gwasanaethau holistaidd ar gyfer ystod eang o bobl sydd â chyflyrau heriol, gan gynnwys ME a CFS, yn ogystal â COVID hir.

"Mae llawer o bobl gyda’r cyflyrau hyn yn teimlo nad yw eu hanghenion iechyd wedi’u bodloni dros y blynyddoedd, a bydd hyn yn ein galluogi i’w cysuro y bydd gwasanaethau’n cael eu datblygu yn y gymuned, yn agosach at eu cartrefi, a fydd yn gallu eu cynorthwyo i reoli eu cyflyrau unigol.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.