Ffilm 'Everything Everywhere All At Once' yn dod i'r brig yn yr Oscars

Y ffilm Everything Everywhere All At Once sydd wedi cipio'r nifer fwyaf o wobrau yn seremoni wobrwyo'r Oscars eleni.
Derbyniodd y ffilm 11 o enwebiadau, ac fe enillodd saith gwobr yn y seremoni yn Los Angeles nos Sul.
Cafodd hanes ei greu wrth i Michelle Yeoh ennill y wobr am yr actores orau mewn prif ran, sef y fenyw gyntaf o dras Asiaidd i wneud hynny.
Brendan Fraser gipiodd y wobr am yr actor gorau mewn prif ran, a hynny am ei waith yn The Whale.
Y gân Naatu Naatu o'r ffilm iaith Telugu, enillodd y wobr am y gân orau o'r ffilm RRR. Dyma'r cynhyrchiad Indiaidd cyntaf i ennill y wobr.
Fe wnaeth y ffilm ryfel All Quiet on the Western Front gipio pedair gwobr ar y noson hefyd.
Mae rhagor o fanylion am yr holl enillwyr ar gael yma.