Newyddion S4C

Darganfod corff mewn coetir yng Nghaerdydd

12/03/2023
Heddlu

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i gorff mewn coetir yn ardal Pentwyn yng Nghaerdydd. 

Cafodd heddlu eu galw am 10:42 fore Sul yn dilyn darganfyddiad gan grŵp chwilio cymunedol oedd yn chwilio am ddyn sydd wedi bod ar goll o'r enw Jamie Moreno. 

Nid yw'r corff wedi'i adnabod yn ffurfiol eto gan fod ymholiadau'n parhau yn y fan a'r lle.

Mae teulu Jamie Moreno yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbennig. 

Cafodd Mr Moreno ei weld ddiwethaf ym mis Mawrth 2020 yn gadael ei gartref yn ardal y Rhath yn y brifddinas. 

Y gred yw fod Jamie wedi gadael ei gartref ychydig wedi 13:15 a chafodd ei weld gan ffrind yn ddiweddarach am 14:45 ar Heol Llanedeyrn. 

Fe wnaeth fynd â'i ffôn a'i waled gydag ef, ond ni chafodd ei gardiau banc eu defnyddio ers y diwrnod hwnnw. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.