Gallai asteroid fwrw’r ddaear ar ddiwrnod San Ffolant 2046 meddai NASA
11/03/2023
Gallai asteroid fwrw’r ddaear ar ddiwrnod San Ffolant 2046 meddai Nasa.
Dywedodd yr asiantaeth ofod fod yr asteroid, 2023 DW, tua maint pwll nofio Olympaidd.
Dyma’r asteroid yr oedden nhw’n poeni fwyaf amdano’n bwrw’r ddaear, meddai Nasa.
Ond roedd y peryg o hynny’n digwydd dal yn fach iawn – un mewn 560, medden nhw.
“Does yna ddim gormod o bryder am yr asteroid yma,” meddai un o beirianyddion Nasa, Davide Farnocchia.
Er mai gweddol fach yw’r asteroid, gallai achosi difrod sylweddol pe bai’n bwrw’r ddaear.
Glaniodd asteroid hanner y maint yn Rwsia ddeng mlynedd yn ôl ac achos difrod dros 200 milltir ac anafu 1,500 o bobol.