Newyddion S4C

CPD Dinas Caerdydd v Met Caerdydd

Met Caerdydd a CPD Dinas Caerdydd yn cwrdd yn rownd derfynol Tlws Adran Genero

NS4C 12/03/2023

Bydd Met Caerdydd yn wynebu CPD Dinas Caerdydd yn rownd derfynol Tlws Adran Genero ddydd Sul.

Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i'r ddau dîm gwrdd yn y ffeinal gyda Met Caerdydd yn ennill 1-0 y llynedd.

Enillodd Met 3-1 yn erbyn Aberystwyth mis diwethaf i sicrhau eu lle yn y rownd derfynol, tra enillodd Dinas Caerdydd 3-1 hefyd ond yn erbyn Y Seintiau Newydd.

Met Caerdydd yw'r tîm mwyaf llwyddiannus yn y gystadleuaeth, ond fe all Dinas Caerdydd ennill yn erbyn Met am y trydydd tro'r tymor hwn, maen nhw eisoes wedi ennill 3-1 a 5-0 yn eu herbyn.

'Hyder'

Wrth siarad cyn y gêm, dywedodd hyfforddwr Dinas Caerdydd, Iain Derbyshire bod gan ei dîm "hyder" gan eu bod wedi curo Met ddwywaith yn barod eleni.

"Mae gennym hyder, ac efallai mantais seicolegol. Ond ar ddiwedd y dydd ffeinal y cwpan yw hi a gall unrhyw beth digwydd ar y diwrnod," meddai.

"Ni'n gwybod bydd rhaid i ni berfformio i'r safon uchaf i ennill y cwpan a dyna'r prif nod. Ni'n gwybod beth sydd angen i ni ei wneud, ni wedi perfformio'n dda trwy'r tymor ond y gemau fel hyn sydd yn cyfri.

"Rydym yn barod, ni wedi ffocysu ar hon mewn sesiynau ymarfer ac rydym yn hyderus."

'Uchafbwynt'

I hyfforddwr Met Caerdydd, Yzzy Taylor, ennill y tlws oedd uchafbwynt y tymor y llynedd.

Ei gobaith hi yw y bydd y clwb yn gallu ail-greu’r uchafbwynt hwnnw a chipio'r tlws am yr ail flwyddyn yn olynol.

"Roedd ennill y llynedd yn uchafbwynt y tymor, gobeithio bod ni'n gallu ail-greu hwnna'r wythnos hon."

"Ni bob tro yn edrych ymlaen at ffeinal y cwpan, mae'n darged bach yn ein meddyliau ac i ni eisiau ennill y tlws eto eleni.

"Mae'r gystadleuaeth hon yn golygu llawer i ni fel clwb, ni wedi ennill hi llawer o weithiau ac y'n ni wedi gweithio'n galed i wneud hynny.

"Byddai ychwanegu un arall i'r casgliad yn wych."

Bydd y gic gyntaf prynhawn ddydd Sul am 14:00 yn Stadiwm Gwydr SDM ym Mhen-y-bont.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.