Newyddion S4C

Hydrocephalus: Codi ymwybyddiaeth i bobl 'wybod ei fod yn bodoli'

Hydrocephalus: Codi ymwybyddiaeth i bobl 'wybod ei fod yn bodoli'

NS4C 11/03/2023

Mae angen codi ymwybyddiaeth o gyflwr Hydrocephalus er mwyn i bobl "wybod ei fod yn bodoli", yn ôl un sy'n byw gyda'r cyflwr. 

Yn 35 oed ac yn byw yng Nghaernarfon, mae Ant Evans yn byw gyda Hydrocephalus, a'r wythnos hon mae'n wythnos codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr. 

"Hydro ydi'r gair Groegaidd am ddŵr a wedyn Cephalus, pen 'di hynny, felly dŵr ar yr ymennydd ydi o yn ei hanfod, ac un o'r ffyrdd o drin hynny efo Hydrocephalus ydi drwy osod dyfeis o'r enw shunt sydd wedyn yn arallgyfeirio'r hylif o'r pen lawr i'r stumog yn fy achos i," meddai Ant wrth Newyddion S4C. 

Mae hylif ar yr ymennydd o'r enw cerebrospinal fluid (CSF), ac mae'r hylif hwn yn amddiffyn yr ymennydd rhag niwed ac yn ei ddarparu gyda maetholion sydd eu hangen arno er mwyn gweithredu yn iawn. 

Mae'r ymennydd angen cynhyrchu CSF newydd yn gyson, ond os ydy'r broses hon yn cael ei amharu, gall achosi pwysau ar yr ymennydd, sydd yna yn achosi Hydrocephalus. 

Mae arbenigwyr yn defnyddio tiwb bychan o'r enw 'shunt' er mwyn trin y cyflwr, sy'n cael ei roi mewn llawdriniaeth i fewn i'r ymennydd er mwyn cael gwared o'r hylif gormodol. 

"Mi ges i lawdriniaeth brys pan o'n i'n bump wsos oed i osod shunt ac yn anffodus, yn sgil hynny, ges i rwbath yn debyg i strôc sydd yn golygu bod gen i, yn ogystal â'r Hydrocepahlus, wendid lawr ochr dde fy nghorff sydd wedi parhau hyd heddiw," meddai Ant.

'Heriol'

Mae profiad Ant o fyw hefo'r cyflwr wedi bod yn un "heriol" meddai, ac mae wedi cawl sawl llawdriniaeth ar hyd y blynyddoedd. 

"O ran byw efo Hydrocephalus o ddydd i ddydd, y prif ffyrdd mae'n effeithio arna i, dwi 'di sôn am y shunt, mae'r shunt yn gwneud sŵn parhaus, dwi 'di ymarfer hen ddigon sut i anwybyddu'r sŵn. 

"Rhywbeth arall sy'n effeithio arna i o ran yr Hydrocephalus ydy ma'n effeithio ar fy nghôf felly dwi'n ca'l hi'n anodd iawn dysgu enwa' pobl - ma'n cymyd ryw tri mis i ddysgu enw rywun. 

"Er bod Google Maps yn bodoli a ma'n wych, dwi'n ei chael hi'n anodd iawn ffeindio fy ffordd o gwmpas llefydd newydd felly yn ddelfrydol, fyswn i isio rhywun sy'n gyfarwydd efo'r ardal i ddangos fi o gwmpas ryw dwywaith, dair er mwyn i fi beidio mynd ar goll."

'Profiad gwahanol i bawb'

Mae profiad pob un sy'n byw gyda'r cyflwr yn wahanol, yn ôl Ant. 

Dywedodd ei fod yn "dalld bod profiada pawb yn wahanol a does na'm modd deud 'Oce, ma' Ant Evans yn cal'i effeithio fel hyn felly trin pawb efo union run fath', - na, ma' rhaid trin pob achos yn unigol yn unol ag anghenion pawb.

"Dwi'n meddwl bod hynny efo'i heria' ond yn beth sydd yn golygu bod pawb gobeithio yn cael y gefnogaeth ma' nhw angan yn lle bod 'na ryw agwedd cut and paste efo fo felly ma'n na anfanteision a manteision bod ni gyd mor wahanol." 

'Hollbwysig'

Mae Wythnos Codi Ymwybyddiaeth am Hydrocephalus yn bwysig iawn i Ant. 

"Ma'n hollbwysig i fi oherwydd dwi 'di cyfarfod gymaint o bobl lle tydyn nhw 'rioed wedi clwad am y cyflwr cyn cyfarfod fi. 

"Dwi di cyfarfod pobl lle ma' nhw 'di cyhuddo fi o ddeud celwydd a sgen i ddim syniad pam bo' nhw wedi, ella bod o'n gymaint o sioc i rai clywed natur sut mae Hydrocephalus yn effeithio fi. 

"Dwi'n meddwl bod o'n hollbwysig codi ymwybyddiaeth jyst er mwyn i bobl gael dalld bod y cyflwr yn bodoli gan bod cyn lleied i weld yn gwbod fod Hydrocephalus yn bodoli yn y lle cynta' a hefyd jyst i wbod yn well os 'di rhywun yn cyfarfod rhywun hefo'r cyflwr, sut orau i gefnogi ni."

Mae Ant yn annog unrhyw un sy'n byw â'r cyflwr i "ddyfalbarhau.

"Y brif neges fysa gen i, gan gofio bod Hydrocephalus yn effeithio ar bawb yn wahanol, mi faswn i yn deud wrth unrhyw berson ifanc i ddyfalbarhau efo petha' boed yn heria' yn ymwneud efo addysg neu bywyd bob dydd. 

"Ma' raid bwrw 'mlaen oherwydd yn hwyr neu'n hwyrach, mi fydd dy ymdrechion yn dwyn ffrwyth."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.