
Cyn ddiffoddwr tân yn cwblhau triniaeth i newid rhywedd yn 80 oed

Mae dynes a weithiodd fel diffoddwr tân a gyrrwr loriau wedi derbyn llawdriniaeth i newid rhywedd yn 80 oed.
Fe gychwynnodd Isobel Jeffrey driniaeth i drawsnewid rhywedd i fod yn fenyw ym mis Hydref y llynedd yn 79 oed, ar ôl byw ei bywyd ‘yn gaeth i’r corff anghywir’.
Fe wnaeth Isobel gychwyn byw ei bywyd fel dynes chwe blynedd yn ôl, ac ar ôl cychwyn therapi hormonau y llynedd, fe gafodd lawdriniaeth i gwblhau’r broses yn ysbyty breifat Spire Yale yn Wrecsam ym mis Ionawr.
“Heddwch a bodlonrwydd”
Mae Isboel yn dweud bod y driniaeth wedi ei galluogi i "ganfod heddwch o’r diwedd".
“Allwn i ddim mynegi faint mae hyn wedi golygu i mi; yr heddwch a’r bodlonrwydd mae hyn wedi dod i mi.
“Mae pobl yn gofyn i mi pam ydw i’n gwenu gymaint? Mae’n teimlo fel bod popeth wedi disgyn yn ei le.
"Rŵan, rydw i eisiau rhannu’r newyddion da a helpu eraill. Dw i bron yn 81 oed ond dw i’n teimlo’n 25!”
Cafodd Isobel ei geni yn fachgen o’r enw Andrew Jeffrey yn Marshfield, yn Sir Gaerloyw gyda chwaer a phedwar brawd.
Mae hi’n dweud ei bod yn teimlo’n wahanol ers iddi fod yn 10 oed, ond fel oedolyn fe weithiodd mewn sawl swydd oedd yn cael eu hystyried ar y pryd fel swyddi i ddynion, er mwyn ceisio profi’n allanol ei bod yn ymddwyn fel dyn.
Fe hwyliodd ar draws y byd yn gweithio i’r Llynges Fasnachol, cyn gweithio fel diffoddwr tân a gyrrwr loriau trwm.
Fe briododd Margaret, a chael dau o blant, merch a mab. Ond roedd y teimlad yn parhau yng nghefn ei phen, yn ôl Isobel.

Cefnogaeth
Ychydig o flynyddoedd yn ôl, yn fuan ar ôl i Margaret dderbyn diagnosis o Alzheimer’s, fe gafodd Isobel fendith ei gwraig i gychwyn ar y daith i newid rhywedd, yn ogystal â chefnogaeth y rhan fwyaf o’i theulu a’r ffrindiau. Nawr, mae hi’n gobeithio y gall ei phrofiad hi roi gobaith i bobl trawsryweddol eraill.
“Roedd Margaret mor gefnogol ac fe gawson ni sgwrs cyn i’r Alzheimer’s dechrau effeithio arni hi yn ormodol,” ychwanegodd Isobel. “Fe ddywedodd i mi wneud beth yr oedd angen i mi wneud, a byw fy mywyd yn hapus.
“Mae gymaint o bobl yn gofyn pam wnes i adael o mor hir, ond dim ond ryw 10 i 15 mlynedd yn ôl roedd hyn yn dod yn fwy derbyniol. Mae newid mewn agweddau yn y gymdeithas wedi rhoi’r hyder i mi fod y person yr ydw i bellach.
“Mi ydw i’n dystiolaeth nad yw unrhyw un yn rhy hen. Cyn belled eich bod yn ddigon iach i dderbyn y llawdriniaeth, mae’n bosibilrwydd i chi.
“Yn anffodus mae yna lot o bobl traws sydd yn anhapus, ond mi ydw i’n teimlo’n hynod o ffodus fy mod wedi canfod hapusrwydd o’r diwedd.”
Lluniau gan Ysbyty Spire Yale/Mandy Jones.