Newyddion S4C

Eve Smith a'i thad

‘Sefyllfa amhosib’ meddai tad wedi i’w ferch a’i chwaer farw mewn damweiniau car

NS4C 10/03/2023

Mae tad un o’r bobl ifanc a fu farw mewn damwain car yng Nghaerdydd ar ôl colli ei chwaer hi dan amgylchiadau tebyg wedi disgrifio ei dorcalon.

Bu farw Eve Smith, 21, Darcy Ross, 21 a Rafel Jeanne, 24 yn y digwyddiad ddydd Sadwrn. Mae Sophie Russon, 20, a Shane Loughlin, 32, yn cael triniaeth mewn ysbyty.

Roedd chwaer Eve, Xana Doyle, 19, hefyd wedi marw mewn damwain yng Nghasnewydd wyth mlynedd yn ôl.

Dywedodd tad Eve Smith, Everton Smith, bod ei ferch yn “bopeth y byddai tad ei eisiau”.

“Fydd ddim byd byth yr un fath,” meddai. “Rydw i ei hangen hi yma i fy nghael i drwy hyn. Mae’n sefyllfa amhosib.

“Does neb yn disgwyl mynd drwy rywbeth fel hyn. Mae fel deja vu.”

'Helpu'

Roedd y pump a fu farw yn teithio mewn car Volkswagen Tiguan a wyrodd oddi ar ffordd yr A48(M) yng Nghaerdydd cyn taro yn erbyn coed.  

Ond ni wnaeth yr heddlu ddim dod o hyd iddyn nhw nes oriau mân y bore ddydd Llun.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw’n parhau i geisio “rhoi popeth at ei gilydd”.

“Mae swyddogion cyswllt yn helpu aelodau’r teulu ar adeg ofnadwy o anodd iddyn nhw,” meddai llefarydd.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.