Bachgen 13 oed wedi'i anafu ar ôl cael ei daro gan lori graeanu
Mae bachgen 13 oed wedi'i gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi iddo gael ei daro gan lori graeanu.
Cafodd y bachgen ei daro wrth gerdded ar Ffordd Ddosbarthu Parc Lansbury yng Nghaerffili fore Iau.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yn Nghaerdydd lle mae'n parhau i dderbyn triniaeth.
Dywedodd Heddlu Gwent ei fod mewn cyflwr sydd yn peryglu ei fywyd.
Mae dyn 36 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru yn ddiofal.
Mae Heddlu Gwent yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac yn apelio am unrhyw wybodaeth.