Newyddion S4C

Gary Lineker 'ddim yn ofni' cael ei wahardd gan y BBC am ei sylwadau ar bolisi lloches

09/03/2023
Gary Lineker

Mae Gary Lineker wedi dweud ei fod yn parhau gyda'i feirniadaeth o bolisi lloches y llywodraeth, ac nad yw'n ofni cael ei wahardd gan y BBC o ganlyniad i'w sylwadau.

Daw hyn wrth i Weinidog Diwylliant Llywodraeth y DU ddisgrifio ei sylwadau fel rhai "siomedig ac anaddas" a'i fod yn bwysig i'r BBC gynnal didueddrwydd er mwyn "cadw ymddiriedaeth y cyhoedd."

Mae Lineker, sydd yn cyflwyno rhaglen Match Of The Day y BBC, wedi wynebu beirniadaeth gan aelodau'r Blaid Geidwadol am gymharu polisi lloches y llywodraeth gyda'r iaith oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr Almaen yn y 1930au.

Brynhawn dydd Iau fe ddywedodd ei fod yn falch fod y stori amdano'n tawelu a'i fod yn edrych ymlaen i gyflwyno Match Of The Day nos Sadwrn. 

Dywedodd yn ei neges gwreiddiol ar Twitter yn gynharach yn yr wythnos, gan gyfeirio ar fudwyr yn teithio i'r DU: "Does dim llif enfawr. Rydyn ni’n cynnig lloches i lawer iawn llai o ffoaduriaid na gwledydd eraill yn Ewrop. 

“Mae hwn yn bolisi creulon tu hwnt sydd wedi ei gyfeirio at y bobl fwyaf bregus gydag iaith sydd ddim yn annhebyg i hynny a ddefnyddiwyd yn yr Almaen yn y 30au.”

Cafodd ei gwestiynu gan newyddiadurwyr tu allan i'w dŷ fore Iau, a dywedodd nad yw'n difaru gwneud y sylwadau.

Dywedodd y BBC eu bod yn cymryd y mater "yn ddifrifol" ac yn disgwyl cael "sgwrs gall" gyda Lineker.

Fe wnaeth llefarydd ar ran Lineker wrthod gwneud unrhyw sylw pellach.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.