Dyn wedi ei arestio am ffilmio yr heddlu yn ystod achos Nicola Bulley

Mae dyn wedi’i arestio am gymryd lluniau o'r heddlu ar y diwrnod y cafodd corff Nicola Bulley ei ddarganfod yn Afon Wyre yn Swydd Gaerhirfryn.
Cafodd y dyn 34 oed o Kidderminster, Swydd Gaerwrangon, ei arestio ar amheuaeth o gyfathrebu maleisus a gwyrdroi cwrs cyfiawnder mewn cysylltiad â'r ymchwiliad i ddod o hyd i Ms Bulley, meddai Cwnstabliaeth Swydd Gaerhirfryn.
Mae'r arestiad yn ymwneud â lluniau a gymerwyd gan unigolyn a oedd y tu mewn i ardal oedd wedi ei neilltuo gan yr heddlu ar 19 Chwefror. Mae'r dyn bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
“Ein blaenoriaeth ers y cychwyn, yw cefnogi teulu Nicola a’r gymuned ehangach. Rydym yn gobeithio y bydd arestio'r dyn yma yn rhoi sicrwydd ein bod yn cymryd pryderon o ddifri, ac y byddwn yn gweithredu arnynt,” meddai Cwnstabliaeth Swydd Gaerhirfryn.