Cynyddu dedfryd dyn a laddodd ei chwaer yn Sir Conwy
Mae llys wedi cynyddu dedfryd dyn a laddodd ei chwaer mewn parc gwyliau yn Sir Conwy.
Bu farw Amanda Selby, 15 oed, ym mharc gwyliau Tŷ Mawr ger Abergele ym mis Gorffennaf 2021.
Cafodd ei brawd, Mathew Selby, 20, ei garcharu'r llynedd wedi iddo bledio'n euog i gyhuddiad o ddynladdiad heb fod yn ei iawn bwyll.
Cafodd ddedfryd o bum mlynedd o garchar a phum mlynedd ar drwydded estynedig.
Ond cafodd y penderfyniad ei herio'r wythnos hon ar gais y Twrnai Cyffredinol, a oedd yn dadlau yn dylai'r ddedfryd gael ei gynyddu er mwyn amddiffyn y cyhoedd.
Yn dilyn gwrandawiad ddydd Mercher, fe wnaeth y Llys Apêl gynyddu dedfryd Mathew Selby i oes yn y carchar.
Fe fydd rhaid i Selby dreulio o leiaf tair blynedd a phedwar mis yn y carchar cyn i'w achos cael ei ystyried ar gyfer parôl.
Fe fydd rhaid i'r achos hefyd fynd at y Bwrdd Parôl cyn y gall Selby gael ei ryddhau.
Yn dilyn y gwrandawiad, dywedodd y barnwr, yr Arglwydd Ustus Stuart-Smith, fod yr achos yn "drasiedi o bob safbwynt ac i bawb a oedd yn gysylltiedig".