41 achos o amrywiolyn India Covid-19 yng Nghymru
Mae 41 achos o amrywiolyn Indiaidd Covid-19 bellach wedi eu cofnodi yng Nghymru.
Cafodd 44 achos newydd o Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru ddydd Mercher ac mae'r gyfradd o achosion ar hyd yr wythnos ddiwethaf yn 9.58 i bob 100,000 o bobl.
Mae tystiolaeth fod y straen newydd o Covid-19 yn gallu trosglwyddo'n haws nag amrywiolion eraill sydd eisoes yn bodoli yn y gymuned.
Ond, mae'r dystiolaeth hefyd yn awgrymu fod y brechlyn yn parhau i amddiffyn yn llwyddiannus rhag effeithiau'r amrywiolyn Indiaidd.
Wrth amlinellu'r sefyllfa ddiweddaraf yng Nghymru, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Mae 41 o achosion o’r amrywiolyn Indiaidd yng Nghymru. Gallai'r straen yma fod yn fwy trosglwyddadwy na’r straen o Caint, sef straen amlycaf y feirws yn y DU.
"Rydym yn monitro'r sefyllfa'n ofalus ac mae pob achos yn cael ei ymchwilio’n llawn.
"Yn y cyfamser, dylen ni gyd barhau i ddiogelu ein hunain ac eraill drwy wisgo masg pan fo angen, cadw pellter a golchi dwylo'n rheolaidd.
"Dylech hefyd dderbyn y eich gwahoddiad i gael y dos cyntaf neu’r ail ddos o’r brechlyn pan ddaw yr amser".