Newyddion S4C

Crwner yn dod i'r casgliad bod esgeulustod meddygol wedi cyfrannu at farwolaeth actores ifanc

07/03/2023

Crwner yn dod i'r casgliad bod esgeulustod meddygol wedi cyfrannu at farwolaeth actores ifanc

Daeth Crwner i'r casgliad bod esgeulustod meddygol wedi cyfrannu at farwolaeth actores ifanc o'r gogledd, a fu mewn gwrthdrawiad ar ffordd rhwng Bangor a Chaernarfon .

Tarodd car Sara Anest Jones yn erbyn cerbyd arall gan achosi marwolaeth teithiwr yn y car hwnnw, ddiwedd Mawrth 2021. Fe glywodd yr achos yn Stoke am gyfres o fethiannau yn y gofal dderbyniodd Ms Jones yn yr ysbyty yn y ddinas honno.

Cafodd Ms Jones ei chludo i uned trawma arbenigol yn Stoke. Roedd meddygon yn ymwybodol bod ganddi nifer o anafiadau difrifol i’w hesgyrn, ond doedden nhw ddim yn gwybod ei bod wedi dioddef rhwyg mewnol i’r coluddyn. 

Mi ofynnodd y crwner, Duncan Ritchie i Dr Michael Greenway o’r bwrdd iechyd yn Stoke a allai bywyd Sara fod wedi ei achub petai’r anaf i’r coluddyn wedi ei ddarganfod yn gynharach:  “Ydy, mae hynny’n debygol. Roedd hwn yn anaf peryglus a doedden ni ddim yn gwybod amdano.” oedd ymateb Dr Greenway.

Cafodd Gemma Pasage Adran ei lladd yn y fan a’r lle. Roedd profion gwaed wedi dangos bod gan Ms Jones deirgwaith y lefel gyfreithlon o alcohol yn ei gwaed. 

Mi glywodd y cwest bod Sara Jones wedi bod yn cael ei thrin dros gyfnod o flynyddoedd am nifer o gyflyrau iechyd meddwl yn cynnwys gorbryder ac anorecsia, ond nad oedd unrhyw awgrym ei bod hi’n ystyried lladd ei hun.

Ddydd Mawrth, cafodd datganiad ei ddarllen i’r llys gan ei rhieni yn manylu ar berthynas honedig rhwng eu merch a’r actor Llion Williams. Fe gafodd negeseuon testun ac e-byst rhwng y ddau o’r dyddiau a’r oriau cyn y gwrthdrawiad eu darllen i’r llys. 

Yn ôl Mr a Mrs Jones, roedd y berthynas wedi effeithio’n andwyol ar hunan barch a iechyd meddwl eu merch. Cafodd datganiadau hefyd eu darllen i’r llys gan Llion Williams yn dweud iddo fe a Ms Jones ddod yn ffrindiau wedi iddo feirniadu gwobr Richard Burton yn 2017. 

Mi ddywedodd nad oedd dim rhamantus i’r berthynas ond ei fod yn credu bod bod Ms Jones yn meddwl y gallai hynny ddatblygu. Mi ddywedodd bod Sara yn fregus a’i fod yn credu y gallai helpu gan ei fod wedi siarad yn agored am ei gyflwr iechyd meddwl ei hun yn y gorffennol. Mi ddywedodd Mr Williams fod marwolaeth Sara wedi effeithio’n fawr arno. 

Yn y cwest ddydd Mawrth, daeth y crwner i'r casgliad bod esgeulustod meddygol wedi cyfrannu at farwolaeth Sara Jones. 

Fe ddywedodd y Crwner Duncan Ritchie  fod meddygon ar y cyd wedi methu gwneud archwiliadau sylfaenol a allai fod wedi dod o hyd i’r anaf : "Y darlun cyffredinol ydy un o gyfres o gamgymeriadau gan unigolion a arweiniodd at gatastroffi,” meddai

Mewn datganiad fe ddywedodd Aled ac Ann Jones, rhieni Sara Anest Jones. “Rydym ni fel teulu yn derbyn casgliadau’r Crwner heddiw. Mae’n dorcalonnus ein bod wedi colli Sara oherwydd esgeulustod difrifol a diffyg gofal sylfaenol yn Ysbyty Stoke.

Mae’n meddyliau ni gyda theulu Gemma Adran hefyd yn eu galar hwythau.”

Mae'r bwrdd iechyd sy’n gyfrifol am ysbyty Brenhinol Stoke a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd wedi cael cais i ymateb i gasgliad ei marwolaeth.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.