Newyddion S4C

Heddlu

Dyn yn euog o dreisio tair menyw yng Ngheredigion

NS4C 07/03/2023

Mae dyn 47 oed wedi'i gael yn euog o dreisio tair menyw yng Ngheredigion, gan gyflanwi'r troseddau hynny dros gyfnod o ddwy flynedd. 

Cafodd Saul Rowan Henvey, o ardal Tregaron, ei arestio ym mis Mai 2021 wedi i fenyw gael ei threisio mewn ardal goediog ger Llanbedr Pont Steffan. 

Yn yr oriau cyn hynny, bu chwilio mawr amdano yn ardal Llanbedr Pont Steffan a Thregaron, wedi iddo ffoi rhag yr heddlu.

Daeth achosion eraill i'r amlwg. Ac yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth, cafwyd Henvey yn euog o bedwar cyhuddiad o dreisio mewn cyswllt â thair menyw.

Yn dilyn yr achos, dywedodd Ditectif Arolygydd Adam Cann o Heddlu Dyfed Powys: "Rydym yn croesawu cyhuddiad Henvey am droseddau mor dreisgar ac afiach yn erbyn menywod yn ein cymuned.

"Mae effaith troseddau Henvey ar fywydau'r dioddefwyr wedi bod yn aruthrol." 

Fe fydd Henvey yn cael ei ddedfrydu mewn gwrandawiad arall yn fuan. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.