Newyddion S4C

Bro Morgannwg

Cymeradwyo cynyddu premiwm treth cyngor ar ail dai ym Mro Morgannwg

NS4C 07/03/2023

Bydd perchnogion ail gartrefi ym Mro Morgannwg yn gorfod talu dwbl treth y cyngor o dan gynigion a gymeradwywyd gan gabinet y cyngor.

Pleidleisiodd aelodau Cyngor Bro Morgannwg o blaid codi premiwm treth cyngor i 100% ar gyfer tai gwag hirdymor.

Bydd hyn yn cynyddu i 150% yn 2024/25 ac yna 200% yn 2025/26.

I ail gartrefi, bydd y premiwm treth cyngor yn codi 100% yn 2024/25.

Yn ôl y Cyngor, mae 528 eiddo hirdymor gwag a 402 eiddo sydd y ail gartrefi yn y sir.

Cafodd perchnogion y tai i gyd eu gwahodd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad a gafodd ei gynnal rhwng 5 Rhagfyr 2022 a 6 Ionawr 2023.

O'r 383 wnaeth ymateb, nid oedd 56.4% ohonynt yn cefnogi newid i'r premiwm treth cyngor, tra bod 40.8% o blaid.

'Barod i dalu mwy'

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Lis Burnett y dylai pobl sydd â dau eiddo fod yn barod i dalu mwy os nad yw'r eiddo yn cael ei ddefnyddio'n aml.

"Does gen i ddim problem gyda phobl sydd yn berchen ar ddau eiddo... ond os nad ydynt yn cael eu defnyddio'n aml... dylai nhw fod yn barod i dalu mwy am hynny," meddai.

"Mae darganfod tai i rentu yn fwyfwy anodd gyda chostau yn cynyddu. Mae prinder tai ym Mro Morgannwg, tua 1,200 o dai y flwyddyn.

"Tra bod buddiannau ariannol amlwg i'r cyngor trwy gyflwyno premiwm o'r fath hwn... y prif nod yw sicrhau bod y tai yn cael eu defnyddio."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.