'Torcalon' teulu wedi i ferch 14 oed o Wcráin farw yn Nyfnaint

Mae teulu merch 14 oed o Wcráin fu farw yn Nyfnaint wedi rhoi teyrnged i'w merch "hyfryd".
Fe aeth Albina Yevko, 14, ar goll ar 4 Mawrth ac fe gafodd ei chanfod yn ddiweddarach yn anymwybodol ar draeth Dawlish yn ne Dyfnaint.
Cafodd ei chludo i'r ysbyty, lle bu farw yn ddiweddarach.
Mewn datganiad a gafodd ei gyhoeddi gan yr heddlu, dywedodd ei mam, Inna Yevko, ei bod hi "a'r teulu wedi eu torri o fod wedi colli ein Albina hyfryd.
"Ni all unrhyw beth gymryd ei lle yn ein calonnau. Rydym yn gofyn fod ein preifatrwydd yn cael ei barchu ar yr amser ofnadwy o anodd yma."
Dywedodd Heddlu Dyfnaint a Chernyw fod ymholiadau yn parhau i amgylchiadau ei marwolaeth.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Becky Davies eu bod yn "disgwyl canlyniadau'r archwiliad post-morterm ddydd Iau, ond yn y cyfamser, gofynnwn i deulu ac anwyliaid Albina gael preifatrwydd wrth iddynt ddod i delerau â'u colled."