
Marwolaethau Caerdydd: Cyfeillion yn beirniadu ymdrech chwilio yr heddlu

Mae cyfeillion i'r rhai fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd wedi beirniadu ymdrechion yr heddlu, gan honni fod aelodau'r cyhoedd wedi darganfod y cerbyd cyn swyddogion heddlu.
Cadarnhaodd Heddlu De Cymru nos Lun fod Eve Smith, 21, Darcy Ross, 21 a Rafel Jeanne, 24 wedi marw yn y digwyddiad. Mae Sophie Russon, 20, a Shane Loughlin, 32, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad.
Mewn datganiad ar y cyd brynhawn Mawrth, mae Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent bellach wedi cyhoeddi gwybodaeth ynglŷn â pha bryd y gwnaethon nhw dderbyn adroddiadau fod pobol ar goll, a pha bryd y cafwyd hyd i'r cerbyd.
Roedd y pump yn teithio mewn car Volkswagen Tiguan a wyrodd oddi ar ffordd yr A48(M) cyn taro yn erbyn coed.
Fe aeth y pump ar goll yn dilyn noson allan.
Cafodd y car yr oeddent yn teithio ynddo ei ddarganfod yn ardal Llaneirwg yng Nghaerdydd yn ystod oriau mân fore Llun.
Mewn datganiad ar y cyd ddydd Mawrth, mae Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent wedi cyhoeddi mwy o fanylion am eu hymgyrch chwilio.
“Yn dilyn ymchwiliadau cychwynnol, fe allwn ni gadarnhau:
- Y tro diwethaf i’r pum person cael eu gweld oedd am 2am ar fore Sadwrn 4 Mawrth ym Mhentwyn.
- Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn ystod oriau man fore Sadwrn 4 Mawrth, gyda’r amser penodol i’w gadarnhau yn yr ymchwiliad, yn sgil ymholiadau camerâu cylch cyfyng (CCTV) a thechnoleg adnabod platiau cofrestru (ANPR).
- Cafodd yr adroddiad person coll cyntaf ei wneud i Heddlu Gwent am 7.34pm ar Ddydd Sadwrn 4 Mawrth.
- Fe gafodd rhagor o adroddiadau person coll eu trosglwyddo i Heddlu Gwent am 7.43pm a 9.32pm ar Ddydd Sadwrn 4 Mawrth.
- Cafodd adroddiad person coll ei anfon at Heddlu De Cymru am 5.37pm ar Ddydd Sul 5 Mawrth.
- Am 11.50pm ar Ddydd Sul 5 Mawrth, fe wnaeth hofrennydd yr heddlu gynnal ymchwiliad uwchben ardal o Gaerdydd, a arweiniodd at gerbyd yn cael ei ddarganfod mewn ardal goediog ger yr A48.
- Fe wnaeth swyddogion Heddlu Gwent ddarganfod cerbyd Volkswagen Tiguan am 12:02am bore ddydd Llun 6 Mawrth.
- Ar hyd o bryd, rydym yn credu mai un cerbyd yn unig oedd yn y gwrthdrawiad.
Mae ffrind i'r tair menyw yn honni mai aelodau o'r cyhoedd wnaeth ddarganfod y car."
Dywedodd Tamzin Samuels, 20, ei bod hi'n credu "y gallai'r heddlu fod wedi cael yr hofrenyddion allan yn gynt. Fe wnaethom nhw lansio apêl awr yn unig cyn i'r menywod gael eu darganfod.
"Fe wnaethom ni eu darganfod nhw cyn yr heddlu - ni wnaeth ffonio'r heddlu."
Ychwanegodd fod hyn yn "siarad cyfrolau, roedd ganddyn nhw'r holl offer, ac roeddem ni yn chwilio yn ein ceir.

Fe wnaeth mam Sophie Russon, Anna Certowicz, gwestiynu pam ei bod hi wedi cymryd mor hir i ddod o hyd i'r cerbyd.
Wrth siarad â'r Daily Mail, dywedodd Ms Certowicz bod ei merch mewn cyflwr critigol ond yn sefydlog yn yr ysbyty ar ôl cael triniaeth yn sgil gwaedlun ar yr ymennydd ac anafiadau i'w gwddf, asgwrn cefn a'i hwyneb.
Dywedodd ei bod hi wedi pasio'r man lle y cafodd y car ei ddarganfod deirgwaith ac bod ei merch wedi bod yn "ymwybodol peth o'r amser" yn y car ac "wedi galw ond doedd neb ddigon agos i'w chlywed."
Ychwanegodd fod "Sophie wedi bod yn gorwedd yno am yr holl amser, gallent fod wedi cael eu darganfod yn llawer cynt pe bai'r heddlu wedi dechrau chwilio yn syth."
Mae Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi cyfeirio eu hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) mewn cysylltiad â'r achos, yn unol â'r drefn arferol.