Creu dol Barbie i gofnodi cyfraniad seryddwraig

Mae seryddwraig Brydeinig wedi cael ei hanrhydeddu â dol Barbie unigryw i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched ac Wythnos Wyddoniaeth Prydain.
Cafodd y ddol ei chreu gan gwmni Matel, er mwyn anrhydeddu Dr Maggie Aderin-Pocock sydd yn cyflwyno rhaglen The Sky At Night ar BBC One.
Mae'n gydnabyddiaeth o'i gwaith wrth annog merched i astudio pynciau'r gofod a gwyddoniaeth.
Mae'r ddol yn gwisgo ffrog sydd â sêr arni ac mae hefyd ganddi delesgop, sydd yn adlewyrchu gwaith Dr Aderin-Pocock.
Dywedodd ei bod eisiau ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr.
"Ers cwympo mewn cariad gyda'r syniad o deithio i'r gofod pan yn ferch ifanc, dwi wedi treulio fy ngyrfa yn ceisio dangos i ferched bod gwyddoniaeth y gofod yn hudolus iawn.
"Dwi eisiau ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr, a merched yn enwedig. Dwi'n gobeithio bod y ddol yn atgoffa merched bod unrhyw beth yn bosib pan yn anelu am y sêr."
'Chwalu ystrydebau'
Mae'r gwyddonydd 54 oed yn ymwybodol nad yw'n "ffitio ystrydeb pawb o wyddonydd" a'i bod hi eisiau chwalu'r ystrydebau hynny.
"Yn aml mae gennym ddelweddau ystrydebol o'r hyn mae pobl yn ei wneud fel swyddi, a dwi'n hoffi chwalu'r ystrydebau hynny pan dwi'n cael y cyfle.
"Yn ystod fy magwraeth, roeddwn yn hoffi chwarae gyda Barbies, a dwi dal yn hoff o wneud gyda fy merch.
"Pan oni'n fach, nid oedd Barbie yn edrych fel fi. Mae'n fraint i dderbyn y ddol yma sydd yn dathlu fy ngwaith.
"Roedd fy merch a finnau yn dawnsio o gwmpas y stafell fyw pan wnes i glywed y newyddion."