Newyddion S4C

Tri chorff wedi'u darganfod yng Nghaerdydd ar ôl i'r heddlu chwilio am bump oedd ar goll

06/03/2023

Tri chorff wedi'u darganfod yng Nghaerdydd ar ôl i'r heddlu chwilio am bump oedd ar goll

Mae’r heddlu sydd wedi bod yn chwilio am dair menyw a dau ddyn aeth ar goll dros y penwythnos wedi darganfod tri chorff yng Nghaerdydd. 

Mae dau berson arall wedi'u cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol. 

Cafodd Sophie Russon, 20, Eve Smith, 21, a Darcy Ross, 21, eu gweld ddiwethaf yng Nghaerdydd yn ystod oriau man fore Sadwrn. 

Roedd y menywod wedi teithio i'r brif ddinas gyda dau ddyn, Rafel Jeanne, 24, a Shane Loughlin, 32, o Borthcawl ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 

Cafodd y car yr oeddent yn teithio ynddo ei ddarganfod yn ardal Llaneirwg yng Nghaerdydd yn ystod oriau mân fore Llun.

Yn ôl Heddlu Gwent, mae’n debyg fod y car wedi bod mewn gwrthdrawiad ar yr A48. 

Ychwanegodd yr heddlu bod swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i'r teuluoedd. 

Fe wnaeth Heddlu Gwent hefyd gadarnhau eu bod wedi cyfeirio eu hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) mewn cysylltiad â'r achos.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu De Cymru: "Fe all Heddlu De Cymru gadarnhau fod swyddogion wedi eu galw am 00:15 ddydd Llun yn dilyn adroddiad o gar yn cael ei ddarganfod oddi ar yr A48 yn ardal Llaneirwg, yng Nghaerdydd. 

"Mae Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad i'r gwrthdrawiad er mwyn darganfod beth ddigwyddodd.

"Hoffem ddiolch i'r cyhoedd am fod yn amyneddgar tra bod yr heol ar gau." 

Image
Safle Gwrthdrawiad Llaneirwg

Teyrngedau

Mae pobl bellach wedi dechrau gadael blodau ger safle’r gwrthdrawiad.

Mae’r heddlu hefyd yn dweud ei bod wedi arestio dyn yn agos i’r safle ar amheuaeth o dorri’r heddwch.

Yn ôl adroddiadau, cafodd Thomas Taylor, 47, o Dredelerch, ei arestio ar ôl i’r heddlu ofyn iddo i adael y safle.

Cyn cael ei arestio, dywedodd Mr Taylor: “Pan glywais yr adroddiadau, doeddwn i ddim yn credu ei fod yn bosib i gar ddod oddi ar yr hewl heb i neb wybod. Dw i dal ddim yn deall y peth.

“Rwy’n teimlo dros y teuluoedd achos mae’n amlwg o ddarllen yr adroddiadau, roedd ganddyn nhw deimlad nad oedd popeth yn iawn. Roedden nhw’n iawn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.