Newyddion S4C

Rhaglen yn ystyried effaith y Gymraeg a'i diwylliant ar iechyd meddwl

Olwen Payne

Bydd rhaglen ar S4C ddydd Sul yn ystyried effaith y Gymraeg ar iechyd meddwl.

Bydd Drych: Meddwl yn Wahanol yn dilyn y Seiciatrydd Dr. Olwen Payne, wrth iddi archwilio’r cysylltiad rhwng iaith, diwylliant a iechyd meddwl.

Nod y rhaglen fydd ystyried oes yna bethau gwahanol am fod yn Gymraeg – yn dda neu’n ddrwg - sy’n effeithio ar ein iechyd meddwl.

Dywedodd Olwen Payne, doctor meddygol sydd bellach wedi arbenigo mewn seiciatreg, ei fod yn angenrheidiol fod rhywun sy’n dioddef yn gallu siarad am eu salwch yn eu hiaith gyntaf.

Yn y rhaglen mae’n cwrdd â Dafydd Davis, a enillodd MBE am ei waith gyda’r Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru.

Mae o’n byw gyda seicosis dwys, sy’n golygu ei fod yn clywed lleisiau annifyr ac yn wynebu gor-bryder ac iselder yn aml.

Dywedodd ei fod yn teimlo bod y gallu i siarad am ei iechyd meddwl drwy’r Gymraeg wedi gwneud lles iddo.

“Yn y chwe mlynedd diwetha’, dwi wedi gweld 24 consultant psychiatrists,” meddai.

“Pan dwi’n siarad efo  pobl proffesiynol yn Saesneg, dwi’n mynd yn bryderus ofnadwy a dwi’n ffeindio fo’n ofnadwy o anodd.

“Am ryw reswm dwi’n ffeindio fo’n lot haws i gyfathrebu am hyn yn Gymraeg... Dwi erioed wedi cael y fath yma o sgwrs yn Gymraeg o’r blaen.”

‘Bywyd ffug’

Ond nid pawb sydd wedi ei fagu mewn cymuned Gymraeg ei hiaith sy’n teimlo eu bod nhw wedi cael profiad gwbwl gadarnhaol.

Roedd Aled Griffiths, o Wasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, sy’n cydweithio gydag Olwen, yn ymwybodol ei fod o’n hoyw o oedran ifanc - ond yn teimlo fel na fyddai’r gymdeithas cafodd ei fagu ynddo am ei dderbyn.

“Nes i drio cadw fo i fi’n hun, trio ei guddio o, trio ei wrthod o,” meddai, ac mi aeth i le tywyll iawn ar ei ben-blwydd yn 21 oed.

“Doedd pethau ddim yn medru cario ymlaen fel oedden nhw, doeddwn i ddim yn medru byw y bywyd ffug yma.”

Yn dilyn ei brofiadau, mae o bellach yn gweithio yn cefnogi plant a phobl ifanc sy’n mynd trwy gyfnodau anodd gyda’u hiechyd meddwl ac wedi sefydlu grŵp LHDTC+ yng Nghaernarfon sy’n cynnig croeso cynnes a chymuned i bobl ifanc.

Mae Aled yn sicr yn ysbrydoliaeth i’r bobl y mae o’n gefnogi ac, yn ôl Olwen, dydi o methu bod yn ddylanwad gwell ar y rhai mae o’n helpu i ddangos bod yna obaith iddyn nhw hefyd.

“Fedra ni ddim byw lle mae person am fod yn nhw ei hunain yn cysidro bod marw yn well na byw,” meddai Aled.

‘Arbennig’

Dywedodd Olwen Payne mai nod ei hymchwil fel rhan o’r rhaglen oedd “gwbod os ydi’r pethau unigryw sy’n ein gwneud ni’n Gymraeg – fel yr iaith a’n diwylliant ni – yn cael dylanwad ar ein iechyd meddwl.”

Meddai Olwen ar gychwyn y daith,  “Ydi o’n siapio sut yr ydan ni’n delio efo’n problemau? Oes angen i ni fel Cymry Cymraeg feddwl yn wahanol?”

Mae Olwen hefyd yn ymweld â Antur Waunfawr. Mae’r fenter gymdeithasol yma yn cynnig cymuned a chyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau dysgu, yn bennaf yn yr iaith Gymraeg.

Mi symudodd Casi Jones a’i gŵr o dde Cymru i’r gogledd er mwyn cael mynediad at wasanaethau yn y Gymraeg i’w mab, Dafydd, sy’n byw gydag awtistiaeth ac wrth ei fodd yn gwneud gwaith caib a rhaw yn Antur Waunfawr.

“Roedden ni’n gweld bod angen mwy o addysg arbenigol i blentyn awtistig... i Dafydd, yr ail iaith fysa Saesneg, a dod i ddeall, falle bod yna ddim addysg arbennig i’w gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn lle oedden ni’n byw,” meddai.

“Wedyn dechrau edrych mewn i’r posibiliadau.”

Bydd Drych: Meddwl yn Wahanol yn cael ei darlledu nos Sul 5 Mawrth am 9.00pm.

Llun: Olwen Payne.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.