Protestiadau yng Ngwlad Groeg yn dilyn damwain trennau

Mae’r heddlu wedi gwrthdaro â phrotestwyr yng nghanol Athens ddydd Sul wedi protest gan filoedd o fyfyrwyr a gweithwyr y rheilffyrdd yno.
Cafodd o leiaf 57 o bobl eu lladd a llawer mwy eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau drên ger dinas Larissa yng Ngwlad Groeg nos Fawrth.
Roedd trên a oedd yn cludo 350 o deithwyr, yn teithio o Athens i ddinas ogleddol Thessaloniki pan darodd yn erbyn trên nwyddau, gan achosi tân mewn o leiaf un o’r cerbydau.
Yn ystod y brotest taflodd protestwyr fomiau petrol at yr heddlu, a ymatebodd gan saethu nwy dagrau.
Ymgasglodd tua 10,000 o fyfyrwyr, gweithwyr rheilffordd a grwpiau sy'n gysylltiedig â phleidiau adain chwith ar sgwâr Athens ddydd Sul.
Roedden nhw’n dweud mai’r nod oedd mynnu gwell safonau diogelwch ar y rheilffyrdd.
“Fydd y drosedd ddim yn cael ei hanghofio,” gwaeddodd y protestwyr wrth ryddhau balwnau du i’r awyr.