‘Mae gen i gyfrifoldeb i beidio â cherdded i ffwrdd’ meddai Adam Price
Mae Adam Price wedi dweud bod yna gyfrifoldeb arno “i beidio â cherdded i ffwrdd” o’i swydd yn arweinydd y blaid.
Gofynnodd Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, James Williams, wrtho ar Politics Wales a oedd wedi ystyried ymddiswyddo yn sgil honiadau o ddiwylliant gwenwynig o fewn y blaid.
Ond dywedodd Adam Price mai ei gyfrifoldeb “mewn amgylchiadau fel hyn, dw i’n meddwl, yw peidio â cherdded i ffwrdd oddi wrth yr her”.
“A dyna beth mae arweinyddiaeth go iawn yn ei gynrychioli – gweithio ar draws y blaid fel tîm unedig er mwyn sicrhau ein bod ni’n cyrraedd lle gwell,” meddai.
Dywedodd eu bod nhw wedi gwneud “llawer iawn o waith caled” wrth edrych ar strwythur, polisïau a diwylliant y blaid.
‘Ceisio deall’
Daw ei sylwadau wedi i BBC Cymru adrodd y llynedd ar honiadau o ddiwylliant gwenwynig a chamymddwyn o fewn y blaid.
Yn sgil hynny penodwyd Nerys Evans, cyn-aelod o’r Senedd, i adolygu proses gwynion y blaid.
Yn ei araith yng nghynhadledd wanwyn y Blaid dywedodd Adam Price y dylai pawb ym Mhlaid Cymru deimlo'n ddiogel.
Ac fe gyfaddefodd nad oedd y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf "wedi bod heb eu heriau" a bod yn rhaid i'w blaid wneud yn well.
Wrth siarad ar Politics Wales, dywedodd Adam Price eu bod nhw wedi bod yn “gwrando” a “cheisio deall” a “gweithio gydag arbenigwyr yn y maes”.
“Ac wrth gwrs mae gyda ni dasglu hefyd wedi ei arwain gan Nerys Evans a fydd yn cynhyrchu argymhellion yn fuan,” meddai.
“Felly rydyn ni wedi dechrau ar y gwaith ac rydyn ni’n ymroddedig i wneud popeth sydd ei angen er mwyn cyrraedd lle rydyn ni eisiau bod.”