Pont y Borth yn cau yn rhannol ddydd Llun wrth i waith ail-ddechrau

Bydd Pont y Borth yn cau yn rhannol ddydd Llun wrth i waith cynnal a chadw ail-ddechrau.
Mae disgwyl i'r gwaith barhau nes o leiaf dydd Iau, 9 Mawrth.
Ym mis Hydref y llynedd cafodd y bont ei chau yn gyfan gwbl i draffig ar ôl i beirianwyr godi pryderon am sefydlogrwydd y bont grog.
Maen nhw wedi gosod hangeri dros dro er mwyn sicrhau diogelwch y bont ar hyn o bryd ond y nod rŵan yw tynnu'r hen hangeri a gosod rhai newydd sy'n gweddu at y bont yn eu lle.
Cafodd y bont ei hailagor i gerbydau yn pwyso llai na 7.5 tunnell ym mis Chwefror, ond nawr mae'n rhaid gwneud gwaith pellach cyn gallu ailagor y bont i bob math o draffig.
'Pob ymdrech'
Bydd un lôn yn cael ei gau o 6 Mawrth wrth i beirianwyr newid yr hangeri ar y bont.
Bydd goleuadau traffig yn weithredol ar naill ochr y bont rhwng 9am a 3pm rhwng dydd Llun a dydd Iau.
Y bwriad yw cwblhau’r gwaith o fewn pedwar diwrnod, ond fe allai gymryd hyd at 10 ddiwrnod, yn ôl Llywodraeth Cymru.
"Gwnaed pob ymdrech i darfu cyn lleied â phosibl yn yr ardal leol," meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn gynharach fis Chwefror nad oedd bwriad ganddyn nhw godi trydedd bont dros y Fenai.