Y Cymry sy’n cyfrannu amlaf yn Nhŷ’r Arglwyddi yn ôl ymchwil newydd
Y Cymry sy’n cyfrannu amlaf yn Nhŷ’r Arglwyddi, yn ôl ymchwil newydd.
Roedd arglwyddi o Gymru wedi siarad 102 o weithiau yr un ar gyfartaledd rhwng mis Ionawr 2020 a mis Tachwedd 2022, yn ôl ymchwil gan y Sunday Times.
Roedd hynny’n cymharu â 14 gwaith yn unig yr un ar gyfer arglwyddi o’r Alban.
Dim ond 20 o Arglwyddi oedd yn byw yng Nghymru - 3.7% o’r cyfanswm - yn ôl ymchwil gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn 2020.
O gymharu â hynny roedd 130 neu 24.2% yn byw yn Llundain.
Ond mae’r ystadegau diweddaraf gan y Sunday Times yn awgrymu bod lleisiau Arglwyddi Cymru i’w clywed yn aml er gwaethaf eu niferoedd.
Dim ond 35 gwaith ar gyfartaledd oedd Arglwyddi o Lundain wedi cyfrannu, gan olygu bod arglwyddi o Gymru wedi siarad bron i hanner cymaint o weithiau ag Arglwyddi o Lundain.
Cyfeiriodd y Times yn benodol at yr Arglwydd Morris o Abaerafan, a gyfranodd 123 o weithiau yn 2020 yn unig er ei fod yn ei 90au.
“Roedd o hefyd wedi goresgyn heriau cyfrannu dros fideo yn ystod y pandemig, er gwaethaf ambell i ffwdan gyda’r botwm miwt,” meddai’r papur newydd.
Llun: yr Arglwydd Morris o Abaerafan.