Pris tocynnau trên yn codi o 5.9% ar gyfartaledd yng Nghymru a Lloegr

Mae pris tocynnau trên yng Nghymru a Lloegr yn codi 5.9% o ddydd Sul.
Mae’r cynnydd yn uwch na chynnydd y llynedd o 4.8% ond o dan lefel chwyddiant.
Fe fydd cost tocyn tymor o Abertawe i Gaerdydd yn codi o £1,956 i £2,068.
Dywedodd Llywodraeth y DU nad oeddynt eisiau ychwanegu at y pwysau ar deuluoedd.
Ond mae grwpiau ymgyrchu yn mynnu nad yw teithwyr yn cael gwerth am eu harian oherwydd gwasanaeth gwael a streiciau.
Mae tua 45% o gost tocyn yn cael ei rheoleiddio gan gynnwys y rhan fwyaf o docynnau tymor, cardiau teithio a rhai gwasanaethau cyfnodau tawel.
Dywedodd y cwmnïau trên fod angen gosod prisiau ar lefel briodol ar gyfer y diwydiant rheilffordd a chwsmeriaid.
"Mae penderfyniad y llywodraeth i gadw prisiau yn is na chwyddiant yn ddealladwy," meddai Rail Delivery Group, y corff sy'n cynrychioli cwmnïoedd y rheilffordd.
"Mae'n bwysig gosod prisiau ar lefel sy'n addas ar gyfer teithwyr a'r diwydiant."