Cytundeb hanesyddol i warchod y cefnforoedd

Mae cenhedloedd y byd wedi dod i gytundeb hanesyddol er mwyn gwarchod cefnforoedd yn dilyn 10 mlynedd o drafodaethau.
Fe fydd cytundeb y cefnforoedd (High Seas Treaty yn Saesneg) yn gosod 30% o’r cefnforoedd dan statws gwarchodol erbyn 2030 i warchod a hybu natur forol.
Daeth y cyhoeddiad nos Sadwrn yn dilyn 38 awr o drafod ym mhencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd.
Roedd y trafodaethau wedi oedi dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd anghydweld dros gyllid a hawliau pysgota.
Bygythiad
Roedd y cytundeb diwethaf wedi ei arwyddo 40 mlynedd yn ôl yn 1982 sef cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar gyfraith y môr.
Roedd y cytundeb hwnnw wedi sefydlu ardal a elwir yn gefnforoedd (high seas yn Saesneg) – sef dyfroedd rhyngwladol lle'r oedd gan bob gwlad yr hawl i bysgota a gwneud ymchwil ond dim ond 1.2% o’r ardaloedd hynny oedd wedi eu gwarchod.
Roedd bywyd morol tu allan i’r ardaloedd hynny dan fygythiad o newid hinsawdd, gor-bysgota a thrafnidiaeth llongau.