Newyddion S4C

Teulu Jenkins Modal Farm

‘Blynyddoedd anoddaf fy mywyd’ meddai ffermwr sy’n wynebu colli ei dir i barc busnes

NS4C 04/03/2023

Mae ffermwr sy’n wynebu colli ei dir i barc busnes wedi dweud ei fod wedi dioddef “blynyddoedd anoddaf ei fywyd”.

Mae pedair cenhedlaeth o deulu Jenkins wedi bod yn ffermio Model Farm i’r dwyrain o faes awyr Caerdydd, ger Y Rhws, a hynny ers 1935.

Ond yn 2021 derbyniodd y tirfeddianwyr, Legal and General, ganiatâd cynllunio i adeiladu parc busnes ar dir y fferm.

Bellach mae cyngor Bro Morgannwg wedi pleidleisio yn erbyn y cynllun, ond wedi blynyddoedd mae’r ansicrwydd yn parhau.

Dywedodd Gethin Jenkins ei fod yn pryderu y gallai'r penderfyniad gael ei wrthdroi gan apêl gan Legal and General.

“A dweud y gwir mae’n siŵr mai dyma yw blynyddoedd gwaethaf fy mywyd,” meddai.

“Ry’n ni’n croesawu'r canlyniad ond hefyd yn rhagweld fod yna ragor i ddod.”

Image
Gethin Jenkins

‘Angen tir’

Dywedodd ei fod yn hapus iawn fod aelodau o’r cyhoedd a grŵp ymgyrchu Uno Cymuned y Fro wedi cefnogi’r teulu.

“Mae rhywun wedi talu sylw,” meddai.

“Mae wedi bod yn anodd iawn cynllunio ar yr ochor fusnes oherwydd mae angen tir arnom ni ac os ydi’r tir yn mynd mae rhan fawr o’r busnes yn mynd hefyd,” meddai.

“Mae’r mab Rhys wedi bod yn trio gwneud rhywbeth gwahanol a gwerthu hadau blodau gwyllt ond mae angen tir i wneud hynny hefyd.

“Mae wedi bod yn bedair neu pum mlynedd anodd gyda hyn yn hongian dros ein pennau ni ac rwy’n amau ai fi oedd y person hapusaf i fod yn cydweithio ag o ar brydiau.”

‘Buddsoddiad’

Siaradodd rheolwr tir strategol Legal and General, Andrew McPhillips yn y cyfarfod cynllunio er mwyn pleidleisio ar y cynllun.

Dywedodd fod y tir yn rhan allweddol o “gynllun cenedlaethol sy’n adnabod Maes Awyr Caerdydd fel rhan hanfodol o isadeiledd strategol Cymru ac yn rhan hollbwysig o’r economi cenedlaethol”.

“Bydd y cais yn sicrhau buddsoddiad preifat sylweddol ar gyfer y safle a’r ardal o’i amgylch,” meddai.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.