Newyddion S4C

Rhun ap Iorwerth ac Eluned Morgan

Plaid Cymru yn galw ar y Prif Weinidog i ddiswyddo Eluned Morgan

NS4C 04/03/2023

Mae Plaid Cymru wedi galw ar y Prif Weinidog Mark Drakeford i ddiswyddo'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan.

Daeth yr alwad gan lefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth, ar ail ddiwrnod cynhadledd Plaid Cymru yn Llanelli.

Mae Eluned Morgan wedi bod dan bwysau gwleidyddol yn sgil ei phenderfyniad i roi Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr dan fesurau arbennig unwaith eto a gofyn i nifer o aelodau'r bwrdd rheoli gamu o’r neilltu.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth na ddylai byth fod wedi dwyn y bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig yn 2020.

Ychwanegodd fod penderfyniad Eluned Morgan i “fychanu” aelodau annibynnol y bwrdd wedi’i feirniadu’n eang, gyda llawer yn honni mai nhw oedd y targed anghywir.

“Mae pobol Cymru wedi colli ffydd yn y Gweinidog Iechyd,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Dro ar ôl tro, mae hi wedi osgoi craffu ac wedi symud bai ar eraill pan mae hi'n cael ei herio gyda chanlyniadau trychinebus ei pholisïau ei hun.

“Mae hyn yn arbennig o wir yn y gogledd.  Mae cleifion a staff Betsi Cadwaladr yn haeddu gwell gan eu llywodraeth. Y lleiaf maen nhw'n ei haeddu yw ymddiheuriad, ond yr hyn sydd ei angen arnom ni i gyd yw i'r llywodraeth gamu i fyny a chymryd cyfrifoldeb am y llanast hwn.”

Ond dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru fod yr alwad yn un “anobeithiol” gan Blaid Cymru.

Ychwanegodd y llefarydd fod Eluned Morgan yn gwneud gwaith “gwaith gwych fel Gweinidog Iechyd”.

Llun: Rhun ap Iorwerth ac Eluned Morgan

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.