Dylai'r Alban wrthod gyrru Maen Ffawd i'r Coroni medd Alex Salmond
Dylai'r Alban wrthod gyrru Maen Ffawd i seremoni Goroni’r Brenin Charles, meddai Alex Salmond.
Dywedodd cyn-Brif Weinidog yr Alban y dylai’r genedl wrthod y cais am nad ydi Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi caniatáu dymuniadau Llywodraeth yr Alban i gael refferendwm ar annibyniaeth.
Mae Maen Ffawd, Clach-na-cinneamhain yn yr Aeleg a’r Stone of Scone yn Saesneg, wedi ei osod o dan yr orsedd yn ystod y coroni ers dyddiau Edward I.
Roedd Edward I wedi ei gipio yn 1296 yn ystod ymdrech i oresgyn yr Alban. Penderfynodd John Major ei ddychwelyd i’r Alban yn 1996.
Mae wedi ei leoli yng Nghastell Caeredin ers yr 199au ond mae disgwyl iddo gael ei gludo’n ôl i Lundain ar gyfer Coroni’r Brenin Charles III ym mis Mai.
Ond dywedodd Alex Salmond, sydd bellach yn arweinydd y parti Alba, fod y graig yn “eiddo” a oedd wedi ei ddwyn o’r Alban ac na ddylid ei roi yn ôl mewn modd “addfwyn”.
“Mae Llywodraeth San Steffan wedi gwadu dymuniad cyfreithlon pobol yr Alban i gael refferendwm ar hunanreolaeth,” meddai.
‘Saff’
Ond dywedodd Ysgrifennydd cyfansoddiad Ceidwadwyr yr Alban, Donald Cameron, nad oedd Alex Salmond bellach yn “berson i’w gymryd o ddifri”.
“Mae’r cyn-Brif Weinidog yn gwybod yn iawn pa mor bwysig yw’r Maen yn ei hanes a pham ei bod yn briodol iddo fod yng Nghoroni’r Brenin.
“Ni ddylai cenedlaetholwyr golli unrhyw gwsg dros y ffaith y bydd y Maen yn mynd i’r Coroni ac yna’n cael ei ddychwelyd yn saff i’r Alban.”
Llun: Maen Ffawd gan Lyfrgell Cornell. Alex Salmond gan Lywodraeth yr Alban.