Newyddion S4C

Rishi Sunak a'r Wylfa

‘Erfyn’ ar y Prif Weinidog i gyflymu’r broses o adeiladu gorsaf niwclear ar Ynys Môn

NS4C 03/03/2023

Mae cadeirydd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan wedi "erfyn" ar y Prif Weinidog i gyflymu’r broses o adeiladu gorsaf niwclear newydd ar Ynys Môn.

Dywedodd Aelod Seneddol Preseli Penfro, Stephen Crabb yn ei lythyr at Rishi Sunak ddydd Gwener ei fod yn pryderu nad oedd cynnydd pellach wedi bod ar y cynllun ers bron i flwyddyn.

Y llynedd gosododd Llywodraeth y DU nod o gynhyrchu 24GW o ynni niwclear erbyn 2050 ond dywedodd Stephen Crabb mai prin oedd y manylion ers hynny ynglŷn â sut y bydd hynny’n cael ei gyflawni.

Roedd peryg y byddai swyddi hirdymor sgiliau uchel sy'n talu'n dda yn cael colli o Ynys Môn os oedd oedi pellach, meddai.

"Ychydig iawn rydyn ni wedi ei glywed ynglŷn â sut y bydd y targed i gynhyrchu 24GW o ynni niwclear erbyn 2050 yn cael ei gyflawni,” meddai Stephen Crabb.

"Drwy leoli gorsaf ynni niwclear nesaf y DU yn Wylfa, bydd swyddi sgiliau uchel, hirdymor yn dod i ardal wledig o'r DU.

“Rwy'n erfyn ar Lywodraeth y DU i weithredu nawr, ac i lansio Great British Nuclear i yrru'r cynnydd ymlaen i’r dyfodol."

Fis Ebrill y llynedd fe gyhoeddodd Strategaeth Diogelwch Ynni Prydain sut y bydd Prydain yn cyflymu’r defnydd o ynni gwynt, niwclear, solar a hydrogen, gyda'r gobaith o weld 95% o drydan y DU yn cael ei gynhyrchu drwy ffyrdd carbon isel erbyn 2030.

Dywedodd y Prif Weinidog ar y pryd, Boris Johnson, fod atomfa newydd ar safle Wylfa yn Ynys Môn "yn mynd i ddigwydd". 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.