
‘Colli mam, fy ffrind gorau’: Angen codi ymwybyddiaeth o ganser endometrial
‘Colli mam, fy ffrind gorau’: Angen codi ymwybyddiaeth o ganser endometrial
“O’n i’n lwcus iawn o'i chael hi ac o’n i’n ffrindiau gorau efo hi.”
Bu farw Anwen Puw a oedd yn athrawes bioleg yn Ysgol Syr Hugh Owen ym mis Mai 2022 o ganlyniad i ganser endometrial.
“Oedd mam yn berson eithaf special rili ac yn eithaf unigryw. ‘Oedd ganddi hi’r capacity i roi pobl eraill o flaen hi'i hun yn eithaf special,” meddai mab Anwen, Owen Puw.
“Roedd hi’n rhoi'r disgybl o flaen hi ei hun pan oedd hi’n athrawes yn Syr Hugh, neu ffrind neu aelodau o’r teulu oedd yn wael neu be bynnag - ma’ hi wedi edrych ar ôl ni gyd mewn ffordd.”

Bron i flwyddyn ar ôl iddo golli ei fam Anwen, mae Owen am i fwy o bobl fod yn ymwybodol o’r math yma o ganser.
“O’n i ddim wedi clywed am y canser yma o’r blaen, ac mae lot o bobl dwi wedi siarad efo ers hynny erioed wedi clywed am dano fo,” meddai Owen wrth Newyddion S4C.
“Wedyn nesi ffeindio allan bod o'r pedwerydd fwyaf cyffredin mewn merched yn Ynysoedd Prydain, wnaeth hynny chwalu’n mrên i 'chydig bach achos o’n i heb glywed am dano fo.”
Symptomau
Canser o fewn y groth yw canser endometrial sy’n effeithio ar tua 9,000 o fenywod ym Mhrydain bob blwyddyn.
Yn ôl y meddyg teulu, Dr Llinos Roberts, mae’n bwysig mynd i weld doctor “yn gynnar” os yn profi symptomau.
"Mewn yn y groth mae ganddoch chi’r celloedd endometrium. Weithiau maen nhw’n gallu bodoli tu allan i’r groth ond fel arfer maen nhw i mewn i’r groth," meddai Dr Llinos
“Y symptomau mwyaf cyffredin ydy unrhyw fath o waedu anarferol, felly gwaedu ar ôl pasio’r menopause, gwaedu ar ôl cael rhyw, neu waedu rhwng mislif, felly unrhyw fath o waedu anarferol," meddai Llinos Roberts.
“Mae symptomau eraill hefyd yn bosib os yw rhywun yn cael discharge anarferol neu yn cael poen wrth gael rhyw neu yn cael poenau yng ngwaelod y bol.”

Mae Owen yn teimlo bod diffyg ymwybyddiaeth am y math yma o ganser.
“Dio ddim yn cael lot o sylw achos ma’r survival rate yn eithaf uchel, ond mae o yn gallu bod yn beryg mewn ffordd, fel digwyddodd i mam," meddai.
“Mae o yn bwysig i fi bo’ ni’n codi ymwybyddiaeth ato fo a bod pobl yn gwybod am dano fo, achos os ti’n gwybod am dano fo, fedri di neud rhywbeth am dano fo. Neu os ti’n gwybod am y symptomau fedri di fod yn ymwybodol o honno fo."
Mam arbennig
Bydd Owen yn gwneud taith gerdded er cof am ei fam Anwen gyda’r gobaith o godi ymwybyddiaeth ac i gasglu arian tuag at elusen, 'The Eve Appeal' sydd yn ymchwilio i ganser gynaecolegol.
“Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel, o’n i ddim yn credu'r peth. Bysa hi’n hollol shocked dwi meddwl,” ychwanegodd Owen.
“Ond dwi meddwl bod o yn dangos faint oedd pobl yn meddwl o honi hi. O’n i’n lwcus iawn iawn o'i chael hi ac o’n i’n ffrindiau gorau efo hi.
“Pan oedd hi’n cael y driniaeth oedd hi’n edrych ar ôl ni yn y ffyrdd fwyaf anhygoel. ‘Ma hi wedi edrych ar ôl ni gyd. So 'oedd hi reit special. Oedda’n ni’n lwcus iawn o’i chael hi.”