Newyddion S4C

Michael Sheen yn buddsoddi £250,000 wrth lansio cronfa gymunedol newydd yng Nghymru

03/03/2023
Michael Sheen, llun gan y BBC

Mae’r actor Michael Sheen wedi sefydlu cronfa i ariannu prosiectau cymunedol yng Nghymru, gan fuddsoddi £250,000 o’i arian ei hun.

Lansiwyd Mab Gwalia yn gynharach yr wythnos hon; menter nid-am-elw sydd yn ceisio cefnogi sefydliadau ac elusennau ar draws y wlad.

Pwrpas y fenter yw i “greu cyfleoedd, brwydro dros degwch a chanfod ffyrdd newydd o fynd i afael â phroblemau a chreu newid," gan ganolbwyntio ar helpu cymunedau yn benodol.

Mae'r fenter wedi cyhoeddi'r 15 sefydliad ac elusen a fydd yn derbyn cefnogaeth gan y gronfa gyntaf, ac mae Sheen yn annog pobl i ymuno a chyfrannu iddo, gan ddatgan ei fwriad i ychwanegu mwy o arian ato yn y dyfodol.

Image
Mae 16 o sefydliadau ac elusennau eisoes yn derbyn cefnogaeth gan Mab Gwalia.
Mae Mab Gwalia wedi cyhoeddi'r 15 sefydliad gyntaf i dderbyn cefnogaeth gan y gronfa.

'Newid positif'

“Sefydliadau a grwpiau cymunedol sydd wrth wraidd beth mae Mab Gwalia eisiau ei gefnogi," meddai Sheen. 

"Nid yn unig yn ariannol, ond i dynnu sylw at beth maen nhw’n wneud. Mae ein holl egni yn mynd i mewn i greu newid positif, ac fe allai unrhyw un ymuno, sydd eisiau bod yn rhan o hynny.

“Ers blynyddoedd, dw i wedi bod yn rhoi arian i mewn i bethau, ac wedyn gofynnodd rhywun i mi a fuaswn i'n rhoi arian i gronfa gwaddol.

“Ac wedyn nes i feddwl, pam ydw i’n rhoi arian i rywun arall am gronfa, pam na wna i sefydlu un fy hun? Cronfa sydd yn cynhyrchu arian er mwyn talu am bethau – byddai hynny’n brilliant.

“Nid yn unig byddai hynny’n helpu nawr, ond mae’n rhywbeth wneith fynd tu hwnt i fy oes i. Fe roddais i chwarter miliwn o bunnoedd o arian fy hun i gychwyn y gronfa gwaddol.

“Tydi hynny ddim yn creu llawer o log i ddechrau, ond mae’n fan cychwyn. Ac mi fydda i’n gobeithio rhoi mwy o arian ynddo dros amser.“

Ymysg y grwpiau cyntaf i dderbyn cefnogaeth gan Mab Gwalia, mae: Pobl Gyntaf Cwm Taf, Acr Cilrath yn Sir Benfro, Dyfodol Disglair Rhyl, Merthyr Valley Veterans a bwrsari i fyfyrwyr Cymraeg fynychu Coleg Jesus yn Rhydychen.

Daw hyn ar ôl i Sheen gyhoeddi ysgoloriaeth ddrama o'r enw Mab Gwalia yn 2021, ar y cyd gyda'r band Manic Street Preachers.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.