MI5 wedi methu cyfle 'sylweddol' i atal ymosodiad Arena Manceinion

Fe wnaeth MI5 fethu cyfle 'sylweddol' i atal yr ymosodiad terfysgol ar Arena Manceinion, yn ôl casgliadau ymchwiliad cyhoeddus i'r digwyddiad.
Cafodd 22 o bobl eu lladd a channoedd arall eu hanafu ar ôl i Salman Abedi ffrwydro dyfais yng nghyntedd y ganolfan yn ystod cyngerdd Arianna Grande ym mis Mai 2017.
Yn ôl adroddiad newydd, mae'n bosib y gallai y gwasanaethau diogelwch fod wedi atal yr ymosodiad ond fe wnaeth MI5 fethu a gweithredu ar wybodaeth ynglŷn ag Abedi a gafodd ei gasglu misoedd cyn y digwyddiad.
Dyma'r trydydd adroddiad i gael ei gyhoeddi yn sgil yr ymchwiliad cyhoeddus i'r ymosodiad.
Fe glywodd yr ymchwiliad fod y gwasanaethau diogelwch wedi bod yn monitro Abedi am saith mlynedd cyn yr ymosodiad.
Yn y misoedd cyn yr ymosodiad, cafodd dau ddarn o wybodaeth ynglŷn ag Abedi eu hasesu gan swyddogion, ond daeth MI5 i'r canlyniad nad oeddent yn gysylltiedig â therfysgaeth.
Ond yn ôl cadeirydd yr ymchwiliad, Syr John Saunders, mae'n bosib y gall yr ymosodiad fod wedi'i atal pe bai'r gwasanaethau diogelwch wedi gweithredu wrth ddefnyddio'r wybodaeth a oedd ganddyn nhw.
'Methu cyfle'
Ar ôl clywed tystiolaeth gan aelodau MI5, mae'r adroddiad yn dweud bod un swyddog wedi ystyried a oedd Abedi yn peri risg i ddiogelwch y genedl yn ôl y wybodaeth.
Er hyn ni wnaeth y swyddog rhannu ei bryderon gydag aelodau eraill neu ysgrifennu adroddiad ynglŷn â'r wybodaeth ar yr un diwrnod.
Dywedodd Syr John Saunders bod yr oedi yma wedi arwain at "fethu cyfle i weithredu".
"Yn seiliedig ar yr hyn a oedd y Gwasanaeth Diogelwch yn ei wybod ar y pryd, rydw i'n fodlon y dylid bod wedi ymchwilio ymhellach," meddai.
"Fe ddylai hyn wedi digwydd."
'Methu'
Dywed yr adroddiad bod y wybodaeth ynglŷn ag Abedi heb ei rhannu gyda'r heddlu gwrth-derfysg yn y gogledd orllewin.
Yn ôl Syr John, fe all rhannu'r wybodaeth ymysg adrannau fod wedi "cynyddu'r posibilrwydd o atal yr ymosodiad".
"Fe wnaeth y wybodaeth godi'r posibilrwydd cadarn o gasglu gwybodaeth ychwanegol a gallai fod wedi sbarduno gweithred i atal yr ymosodiad," meddai.
"Nid oes modd i ni wybod beth yn union fyddai wedi digwydd, ond mae yna bosibilrwydd bod cyfleoedd wedi'u methu."