Pennaeth Coleg Epsom wedi marw yn sgil anaf i'r frest gan wn

02/03/2023
emma pattison.png

Clywodd cwest fod pennaeth Coleg Epsom yn Surrey wedi marw yn sgil anaf i'r frest ac abdomen gan wn.   

Bu farw Emma Pattison yn sgil sioc, gwaedlif ac anaf i'r frest ac abdomen gan wn ar 5 Chwefror. 

Clywodd y cwest hefyd fod ei merch, Lettie, wedi marw yn dilyn anaf i'w phen gan wn. 

Y gred yw fod George Pattison, 39, wedi llofruddio Emma Pattison, 45, a'u merch saith oed Lettie, cyn lladd ei hun.

Cafodd y tri eu darganfod yn farw yn eu cartref ar dir yr ysgol breifat yn Surrey. 

Cyhoeddodd y crwner y bydd gwrandawiad cyn y cwest ffurfiol yn cael ei gynnal ar 27 Mehefin. 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.