Dedfrydu mam a thad Kaylea Titford i chwech a saith mlynedd yn y carchar
Mae mam a thad Kaylea Titford wedi eu dedfrydu i chwech a saith mlynedd a chwe mis yn y carchar ddydd Mercher.
Cafodd Kaylea Titford ei darganfod yn farw yn ei chartref yn y Drenewydd ym Mhowys fis Hydref 2020, ar ôl i'w rhieni ganiatáu iddi fynd yn or-dew. Roedd gan Kaylea y cyflwr spina bifida.
Cafodd y rhieni eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher a dyma oedd y tro cyntaf i ddedfryd gael ei darlledu mewn llys yng Nghymru.
Wrth eu dedfrydu dywedodd y barnwr Ustus Griffiths nad oedd rhieni Kaylea Titford wedi cymryd camau er mwyn sicrhau ei bod hi’n cael y cymorth oedd ei angen arni.
“Roedd yn esgeulustod affwysol,” meddai.
“Roedd cymorth yno i ofyn amdano, ond cafodd ei anwybyddu."
'Bregus'
Plediodd ei mam, Sarah Lloyd-Jones, 39, yn euog i ddynladdiad trwy esgeulusdod difrifol y llynedd, tra gwadodd ei thad Alun Titford y cyhuddiad, cyn cael ei ddyfarnu'n euog wedi achos fis Ionawr 2022.
Roedd Kaylea Titford yn pwyso 22 stôn 13 pwys pan gafodd ei darganfod yn farw. Clywodd y llys iddi gael ei darganfod "mewn amodau anaddas i unrhyw anifail, heb sôn am ferch 16 oed fregus."
Roedd ei thad wedi dweud wrth y rheithgor mai ei bartner oedd yn bennaf gyfrifol am y gofal dros Kaylea.
Cafodd y ddau eu dedfrydu ddydd Mercher yn yr achos cynta yng Nghymru i gael ei ffilmio.
Daw hynny yn sgil newidiadau i'r gyfraith y llynedd sydd bellach yn caniatáu camerâu mewn llysoedd barn.
Llun: Rhieni Kaylea Titford, Alun Titford a Sarah Lloyd-Jones. Llun gan Jacob King / PA.