Llywodraeth Cymru yn herio awgrym gweinidog mai eu cyfrifoldeb nhw ydi gwella band eang Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi herio awgrym gan un o weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig mai eu cyfrifoldeb nhw ydi gwella rhwydwaith band eang Cymru.
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mercher awgrymodd un o weinidogion Swyddfa Cymru, James Davies, fod angen i Lywodraeth Cymru wella ar isadeiledd band eang y wlad.
Wrth ateb cwestiwn gan lefarydd yr wrthblaid ar faterion Cymreig, dywedodd: “Mae hi’n ymwybodol mai Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yn arwain ar gyflwyno band eang yng Nghymru.
“Maen nhw wedi bod yn gwneud hynny ar y cyd â BDUK (Building Digital UK).
“Rydw i’n cytuno gyda hi fod angen gwneud rhagor er mwyn gwella’r ffigyrau yna.”
Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd hynny’n wir.
“Mae’r gweinidog o Swyddfa Cymru yn anghywir,” medden nhw. “Mae band eang yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU.
“Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi camu i’r adwy o’r blaen i ddefnyddio cyllid Llywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd er mwyn sicrhau bod band eang yn cael ei gyflwyno i hyd yn oed mwy o adeiladau nag a gynlluniwyd gan gwmniau masnachol.
“Mae ein gwaith ni wedi trawsnewid darpariaeth band eang cyflym iawn ledled Cymru drwy gysylltu 730,000 o adeiladau.
“Mae hyn wedi sicrhau bod Cymru’n cadw i fyny â gweddill y DU o ran darparu band eang ar gyfer 96% o adeiladau.”
‘Torri addewid’
Yn gynharach heddiw roedd llefarydd yr wrthblaid ar faterion Cymreig, Jo Stevens, wedi herio Llywodraeth y DU ar eu haddewid o “ddarparu band eang cyflym i bob cornel o’r DU”.
“Ond mae diweddariad a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn dangos bod gan Gymru ddarpariaeth band eang gwaeth na gweddill cenhedloedd y DU.
“Dim ond 57% o’i gymharu er enghraifft gyda 73% yn Lloegr a 89% yng Ngogledd Iwerddon.
“Onid yw hynny’n cynrychioli torri addewid arall i Gymru gan y Ceidwadwyr?”