Rhagolwg ar unig gêm Cwpan Cymru JD dydd Sadwrn

Mae’n benwythnos rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD a bydd Y Bala, Cei Connah, Pen-y-bont a’r Seintiau Newydd yn brwydro i sicrhau eu lle yng ngêm fwyaf calendr y pyramid pêl-droed Cymreig.
Dyma’r tro cyntaf i bedwar clwb o’r Chwech Uchaf gyrraedd y rownd gynderfynol ac felly mae disgwyl i’r safon fod yn uchel a’r gemau i fod yn rhai cystadleuol.
Mae'r Bala eisoes wedi sicrhau lle yn y rownd derfynol yn dilyn buddugoliaeth o 3-2 yn erbyn Cei Connah nos Wener.
Pen-y-bont v Y Seintiau Newydd | Dydd Sadwrn – 12:45 (S4C) Parc Waun Dew, Caerfyrddin
Bydd rhaid i Ben-y-bont guro’r Seintiau Newydd am y tro cyntaf erioed os am sicrhau lle yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD am yr ail flwyddyn yn olynol.
Mae’r clybiau wedi cyfarfod 15 gwaith, ac er bod y gemau’n tueddu i fod yn rhai agos tu hwnt dyw’r Seintiau erioed wedi colli yn erbyn tîm Rhys Griffiths (ennill 11, cyfartal 4).
Aeth y ddau glwb benben yn y rownd derfynol y tymor diwethaf gyda’r Seintiau Newydd yncodi’r tlws am yr wythfed tro yn eu hanes yn dilyn y fuddugoliaeth o 3-2 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae’r clybiau wedi cyfarfod deirgwaith y tymor yma gyda’r Seintiau’n cipio buddugoliaeth o 1-0 yn y funud olaf ym mis Awst, cyn cael gêm ddi-sgôr ym mis Tachwedd, a gêm gyfartal 1-1 y penwythnos diwethaf.
Mae’r Seintiau wedi chwarae Pen-y-bont wyth o weithiau ers dechrau tymor 2021/22 (ennill 4, cyfartal 4), ond dyw cewri Croesoswallt heb ennill dim un o rheiny o fwy nac un gôl.
Mae bechgyn Rhys Griffiths wedi ennill naw o’u 10 gêm ddiwethaf yng Nghwpan Cymru gyda’r unig golled yn dod yn erbyn Y Seintiau Newydd yn y rownd derfynol llynedd (Pen 2-3 YSN).
Pen-y-bont yw’r unig glwb ar ôl yn y gystadleuaeth sydd heb ennill y gwpan yn y gorffennol, ac mae’r garfan yn benderfynol o gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf erioed eleni.
Torrodd y newyddion yr wythnos diwethaf bod Pen-y-bont wedi eu cyhuddo am dorri rheolau eilyddio’r gynghrair a’u bod mewn perygl o golli chwe phwynt.
Pe bae hynny’n digwydd, byddai Pen-y-bont yn llithro o’r 3ydd i’r 5ed safle, ac felly mae mwy o bwysau ar y clwb i lwyddo’n y gwpan os am gyrraedd Ewrop.
Mae Pen-y-bont wedi curo pedwar clwb o’r cynghreiriau îs i gyrraedd y rownd gynderfynol (Rhisga, Conwy, Gresffordd a Threffynnon), tra bod Y Seintiau Newydd wedi trechu Y Waun, Caernarfon, Y Drenewydd a Cwmbrân Celtaidd hyd yma.