Newyddion S4C

Peilonau

Cymharu cynlluniau posibl i godi parc ynni newydd fel y 'Tryweryn nesaf'

NS4C 01/03/2023

Yn Sir Conwy, mae trigolion rhai pentrefi yn cymharu cynlluniau posib i godi parc ynni newydd fel “y Tryweryn nesaf”

Yn ôl cwmni Bute Energy, does dim cynlluniau swyddogol wedi eu cyflwyno eto ar gyfer safle Moelfre Uchaf.

Ond ma’r ymgyrchwyr yn honni fod gan y cwmni gynlluniau ar y gweill i godi ugain o dyrbeini gwynt anferth ar hyd y tir sy’n agos at bentrefi Llangernyw, Betws yn Rhos a Llanfairtalhaiarn.

"Tu hwnt i unrhyw reswm."

Mae Non Davies yn byw wrth ymyl un o’r caeau.

“O fewn saith can metr i gartrefi, ma’ maint a graddfa y safle yn gwbl tu hwnt i unrhyw reswm.”

“Ma’n nhw wedi bod wrthi ers mis Medi 2020 yn gwneud ymholiadau, yn gwneud asesiadau. Os ydi o yn newyddion mor dda, pam nad oedd modd cynnwys pawb yn y penderfyniadau cynnar rheini?”

Mewn datganiad, mae cwmni Bute Energy yn dweud fod y cynllun ar hyn o bryd  "mewn cyfnod asesu."

A phetai yn cael ei dderbyn, mi allai  "gynhyrchu trydan i wresogi a phweru cartrefi ledled Cymru”.

Mae’r cwmni’n dweud y byddai’n helpu “Llywodraeth Cymru i gyrraedd targed”  – sef fod trydan erbyn dwy fil a thrideg pump, “yn gwbl adnewyddadwy.”

Mae melinau gwynt a pheilonau wedi hollti barn ers blynyddoedd, ac mewn cyfarfod agored yn Llangernyw yr wythnos yma, mi roedd nifer yn poeni y gallai’r parc ynni arfaethedig chwalu’r gymdeithas glos.

Tydi’r drafodaeth yn Sir Conwy ddim yn unigryw. Mae yna gynlluniau tebyg drwy Gymru, a phobol yn gorfod dewis rhwng gwireddu datblygiadau ynni gwyrdd neu warchod y tirlun.

Tydi Llywodraeth Cymru ddim am wneud sylw ar hyn o bryd.

"Telerau'r gymuned leol."

Ac yn ôl Llyr Gruffydd o Blaid Cymru sy’n aelod o’r Senedd dros y gogledd, mae’n rhaid ystyried pob cais yn unigol.

“Dwi'n gefnogol o ynni adnewyddadwy. Dwi'n teimlo bod ynni gwynt ar y môr yn cynnig gwell datrysiad i ni o safbwynt scale a safbwynt gweithredu sydyn. Ond wrth gwrs ma’ gwynt ar y tir hefyd yn rhan o'r ateb.

"Ond waeth ni beidio dweud codwch felinau gwynt yn bob man...mae rhaid cael criteria cryf a sicrhau bod hynny'n digwydd yn y modd pwrpasol ac hefyd yn digwydd ar delerau'r gymuned leol.” 

Mae Bute Energy yn dweud y byddan nhw’n ystyried barn y gymuned leol ar ôl gorffen asesu.

Mae’n debyg mai’r rheini sydd berchen y tir fydd â’r gair olaf.

Ond mae Non Davies yn poeni.

“O gofio Tryweryn, ‘dan ni’n cofio hynny yn arbennig eleni ac mae’n sicr imi pan fod yr abwyd ariannol yn ddigon uchel a’r consyrn am gymuned ac unigolion yn ddigon isel, ma’r atgofion am Dryweryn yn pylu.”

“Dwi’n gweld bod yna benderfyniadau anodd i’w gwneud, penderfyniadau busnes ac wrth gwrs, mae o’n fater iddyn nhw ond yn sicr mae o ar draul eraill.”

Mi ysgrifennodd y bardd R. Williams Parry am y 'Y Peilon' dros wythdeg mlynedd yn ôl gan drafod eu heffaith ar natur ac ar dirwedd. Mae’r trafod yn fyw o hyd, ond y tro yma am dyrbinau gwynt yn ogystal â’r peilonau sy’n dod yn eu sgil.

Does na’m disgwyl i Bute Energy gynnal ymgynghoriad efo’r bobol leol cyn fis Hydref.  

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.