Angen ‘deffro’ medd cadeirydd YesCymru yn sgil cwymp mewn cefnogaeth dros annibyniaeth
Mae cadeirydd YesCymru wedi dweud fod angen i’r mudiad “ddeffro” yn sgil cwymp mewn cefnogaeth dros annibyniaeth.
Awgrymodd pôl gan YouGov bod 18% o blaid annibyniaeth, 55% yn erbyn a 20% ddim yn siŵr.
Roedd hynny’n gwymp sylweddol ers mis Awst y llynedd pan oedd pôl piniwn gan YouGov yn awgrymu fod 30% yn gefnogol o annibyniaeth.
Dywedodd Prif Weithredwr YesCymru, Gwern Gwynfil: "Rhaid i'r ffigurau hyn fod yn brociad i'r ymgyrch dros annibyniaeth.
“Mae llawer mwy o waith i'w wneud os ydym am berswadio ein cyd-ddinasyddion i rannu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru rydd ac annibynnol.
"Er mwyn i annibyniaeth Cymru gael ei gymryd o ddifrif, mae rhaid i ni gynnig gweledigaeth rymus o'r dyfodol disglair hwn i Gymru.”
Anghydfod
Y flwyddyn ddiwethaf fe gynhaliodd YesCymru eu gorymdeithiau cyntaf ers 2019 yn Wrecsam a Chaerdydd ar ôl gorfod canslo rhai blaenorol yn sgil y pandemig Covid.
Bu anghydfod o fewn y mudiad hefyd gyda’r Pwyllgor Canolog oll yn ymddiswyddo yn 2021 a chreu strwythur llywodraethol newydd.
Galwodd Gwern Gwynfil ar gefnogwyr annibyniaeth i gyd-dynnu er mwyn cyrraedd eu nod.
“Rhaid i gefnogwyr annibyniaeth uno ag un llais, siarad yn glir, ac argyhoeddi ein holl gymunedau mai Annibyniaeth yw’r unig ffordd i dorri yn rhydd o gylch tlodi a thangyflawni,” meddai.
“Mae canrifoedd o gael ein rhwymo i arweinyddiaeth a gormes San Steffan wedi ein llethu yn rhy hir.”