Newyddion S4C

Disgwyl dedfryd rhieni Kaylea Titford mewn gwrandawiad a gaiff ei ffilmio

01/03/2023
Kaylea Titford

Dedfryd tad a mam am ladd eu merch 16 oed fydd yr achos llys cyntaf yng Nghymru i ymddangos ar deledu. 

Cafodd Kaylea Titford ei darganfod yn farw yn ei chartref yn y Drenewydd ym Mhowys fis Hydref 2020, ar ôl i'w rhieni ganiatáu iddi fynd yn or-dew. Roedd gan Kaylea y cyflwr spina bifida. 

Mae disgwyl i'w rhieni gael eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher.  

Plediodd ei mam, Sarah Lloyd-Jones, 39, yn euog i ddynladdiad trwy esgeulusdod difrifol y llynedd, tra gwadodd ei thad Alun Titford y cyhuddiad, cyn cael ei ddyfarnu'n euog wedi achos fis Ionawr 2022 

Roedd Kaylea Titford yn pwyso 22 stôn 13 pwys pan gafodd ei darganfod yn farw. Clywodd y llys iddi gael ei darganfod "mewn amodau anaddas i unrhyw anifail, heb sôn am ferch 16 oed fregus."

Roedd ei thad wedi dweud wrth y rheithgor mai ei bartner oedd yn bennaf gyfrifol am y gofal dros Kaylea.

Mae disgwyl i'r ddau gael eu dedfrydu ddydd Mercher yn yr achos cynta yng Nghymru i gael ei ffilmio. Daw hynny yn sgil newidiadau i'r gyfraith y llynedd sydd bellach yn caniatau camerâu mewn llysoedd barn. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.