Plaid Cymru yn galw am ddatganoli deddf cyflogaeth

Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i fynnu bod y ddeddf cyflogaeth yn caeli ei datganoli er mwyn " amddiffyn hawliau gweithwyr Cymru rhag San Steffan."
Yn ôl Plaid Cymru, mae angen gwneud hynny er mwyn amddiffyn hawliau gweithwyr i streicio a'u gwarchod rhag " deddfwriaeth gwrth-streicio San Steffan."
Mewn dadl yn y Senedd ddydd Mercher, bydd Plaid Cymru yn dadlau y byddai datganoli’r pŵer hwn dros gyfraith cyflogaeth i Gymru yn sicrhau hawliau a phwerau bargeinio gweithwyr.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn edrych ar bob opsiwn er mwyn amddiffyn Cymru a'i gwasanaethau cyhoeddus.
Mae'r Bil Streiciau Llywodraeth y DU, sydd yn mynd trwy Senedd San Steffan ar hyn o bryd yn ceisio cyflwyno gofynion newydd i weithwyr ac undebau llafur sydd yn awyddus i streicio.
Dywedodd Luke Fletcher AS: “Mae Plaid Cymru’n credu y dylai’r hawl i streicio am gyflog teg ac amodau gwaith diogel fod yn rhan annatod o hawliau dinasyddion yng Nghymru a ledled y DU.
"Mae Llywodraeth Geidwadol San Steffan yn benderfynol o ddileu’r hawl hwn drwy eu deddf gwrth-streicio hunllefus, ac nid yw’n ymddangos bod y Llywodraeth Lafur yng Nghymru eisiau’r pŵer i’w amddiffyn.
“Byddai’r ddeddfwriaeth bresennol y mae San Steffan am ei phasio yn ceisio dirwyo neu ymddiswyddo undebau a gweithwyr yn y maes iechyd, tân ac achub, addysg, trafnidiaeth, gwastraff niwclear ac ymbelydrol, a lluoedd y ffin."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru : “Rydym ym ystyried pob opsiwn ar hyn o bryd i warchod Cymru a'i gwasanaethau cyhoeddus rhag goblygiadau niweidol a difrifol y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Isaf).
“Rydym yn parhau i hyrwyddo gwaith teg ar bob cyfle a bydd y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn golygu mai Cymru fydd y rhan gyntaf o’r DU i greu fframwaith statudol ar gyfer partneriaeth rhwng undebau llafur, y Llywodraeth a chyflogwyr.”
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth y DU am eu hymateb.