Newyddion S4C

Cyffuriau

Gwerthwyr cyffuriau yn targedu bechgyn 13 oed i weithio ar eu rhan

NS4C 01/03/2023

Mae bechgyn yn eu harddegau, rhai mor ifanc â 13 oed yn cael eu denu i weithio i werthwyr cyffuriau - dyna rybudd gan yr Heddlu Trafnidiaeth 

Yn ôl yr heddlu, mae addewidion o arian ac anrhegion yn cael eu cynnig i bobl ifainc.  

Maen nhw'n rhybuddio fod ffônau symudol, fêps a dillad yn cael eu cynnig hefyd, a bod y cyfan yn cael ei farchnata ar gyfryngau cymdeithasol fel 'cyfleoedd busnes.' 

Mae'r Heddlu Trafnidiaeth yn dweud fod swyddogion wedi gweld negeseuon gan gyflenwyr cyffuriau yn gofyn "pwy sydd am ennill £500 y penwythnos hwn? "  

Mae'r heddlu yn dechrau ymgyrch ar gyfrwng Snapchat gan geisio targedu bechgyn 13 i 15  oed yn Llundain, Birmingham a Lerpwl, er mwyn eu rhybuddio i gadw draw oddi wrth rwydweithiau troseddol. 

Mae pobl yn eu harddegau yn aml yn cael eu defnyddio i gludo cyffuriau ar dren i amrywiol ardaloedd yn rhan o'r hyn sy'n cael ei alw'n rwydweithiau county lines 

Mae'r gangiau cyffuriau hynny yn gweithredu mewn ardaloedd trefol ac yn ceisio cael gafael ar gwsmeriaid mewn ardaloedd gwledig drwy ddefnyddio pobl ifainc a phobl bregus i gludo'r cyffuriau ar eu rhan.  

Ar ôl gwneud cais rhyddid gwybodaeth, datgelodd rhaglen y Byd ar Bedwar ar S4C y llynedd, fod dros 150 o rwydweithiau 'County Lines' wedi cael eu cofnodi gan Heddluoedd Cymru yn 2022. 

Ers i'r Heddlu Trafnidaeth sefydlu ei dasglu county lines yn 2019, mae 2,250 o bobl wedi eu harestio ar amheuaeth o fod â chyswllt â gangiau cyffuriau. Roedd 40% ohonyn nhw o dan 19 oed. 

Ymhlith y rhai o dan 19 oed, fe wynebodd 20% ohonyn nhw gyhuddiadau troseddol. Yn ôl yr heddlu, roedd cydnabyddiaeth fod nifer ohonyn nhw yn ddioddefwyr ac wedi cael eu hecsbloetio.  

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Gareth Williams o'r tasglu: “ Mae'n olygfa gyffredin i weld fy nhimoedd yn dod o hyd i blant ar reilffyrdd, a hwythau yn cael eu hecsbloetio i werthu cyffuriau.

“Ein prif flaenoriaeth yw adnabod y dioddefwyr hynny a'u symud i ddiogelwch." 

“Bachgen 13 oed yw'r person ieuengaf i ni ei weld yn ymwneud â county lines - yn yr achos hwnnw cafodd y cwpwl a oedd yn ei reoli eu carcharu am 12 mlynedd." 

Mewn arolwg a gafodd ei gomisiynu gan yr Heddlu Trafnidiaeth o blith 1,500 o fechgyn rhwng 13 ac 19 oed, dywedodd 19%  iddyn nhw neu ei ffrind gael cynnig gwaith gan gyflenwr cyffuriau. 

Roedd 20% o'r bechgyn yn adnabod rhywun a oedd yn cludo cyffuriau. 

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.