Angen ‘newid sylfaenol’ ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr meddai Mark Drakeford
Mae Mark Drakeford wedi dweud fod angen “newid sylfaenol” ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Wrth ymddangos yng ngwestiynau y Prif Weinidog am y tro cyntaf ers iddo golli ei wraig fis diwethaf, ymatebodd Mark Drakeford i feirniadaeth chwyrn gan arweinwyr y gwrthbleidiau.
Cyhoeddwyd ddoe y byddai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cael ei osod dan fesurau arbennig unwaith eto a nifer o aelodau y bwrdd rheoli yn camu o’r neilltu.
Ond wrth holi’r Prif Weinidog yn y Senedd dywedodd arweinydd y brif wrthblaid, Andrew RT Davies, fod angen creu “rhywbeth hollol wahanol er mwyn darparu gofal iechyd yng ngogledd Cymru”.
Dywedodd Mark Drakeford mai cam cyntaf oedd y newidiadau a gafodd eu cyhoeddi ddoe.
“Bydd angen rhywbeth sydd yn fwy sylfaenol na hynny,” meddai.
Dywedodd y byddai'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn esbonio sut y bydd “newid sylfaenol o fewn y corff yn cael ei wireddu yn y dyfodol”.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price fod penderfyniad Llywodraeth Cymru i dynnu Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig cyn Etholiad y Senedd y llynedd yn “ymgais i gamarwain pobol”.
Ymatebodd Mark Drakeford yn flin gan ddweud fod yr honiad yn “difrïo” y cyrff annibynnol oedd wedi cynghori Llywodraeth Cymru i gymryd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig.
'Pryderon'
Dyma'r ansicrwydd diweddaraf o fewn Bwrdd Iechyd a fu dan reolaeth Llywodraeth Cymru rhwng 2015 a 2020.
Ddydd Llun cytunodd Cadeirydd, Is-gadeirydd ac aelodau annibynnol y Bwrdd i gamu i’r naill ochr.
Daw’r ymddiswyddiadau lai nag wythnos wedi i adroddiad damniol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ddweud fod problemau ar frig Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn “berygl sylfaenol” i allu’r bwrdd i weithio’n effeithiol.
Dyfed Edwards fydd Cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Mae'n gyn-arweinydd Cyngor Gwynedd a dirprwy gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru.
Bydd yn cael ei gefnogi gan Gareth Williams, Karen Balmer a Rhian Watcyn Jones fel aelodau annibynnol interim o’r Bwrdd.
Mewn datganiad ddydd Llun dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan: “Mae gen i bryderon difrifol am berfformiad y bwrdd iechyd a dw i ddim wedi gweld y gwelliant i wasanaethau dw i’n ei ddisgwyl ar gyfer pobl y Gogledd. Dw i felly wedi penderfynu cymryd camau i unioni hyn.
“Dw i wedi rhoi gwybod i’r Bwrdd fy mod yn rhoi’r sefydliad yn ôl o dan Fesurau Arbennig, a hynny ar unwaith. Mae’r penderfyniad sylweddol hwn yn cael ei wneud yn unol â’r fframwaith uwchgyfeirio.
"Mae’n adlewyrchu pryderon difrifol am berfformiad y sefydliad, am ei lywodraethiant, a materion yn ymwneud ag arweinyddiaeth a diwylliant sy’n ei atal rhag gwella.
“Dw i’n cydnabod bod y bwrdd iechyd wedi wynebu heriau sylweddol ers sawl blwyddyn ac wedi gweithio’n galed i oresgyn yr heriau hyn. Serch hynny, nawr yw’r amser am arweinwyr newydd i wneud y gwelliannau sydd eu hangen.”