Geraint Løvgreen yn bwriadu teithio i gemau Euro 2020 er y cyngor newydd

Geraint Løvgreen yn bwriadu teithio i gemau Euro 2020 er y cyngor newydd
Mae'r cerddor a'r bardd, Geraint Løvgreen, wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C ei fod yn bwriadu teithio i wylio Cymru yn Euro 2020, er gwaetha'r cyngor gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i beidio.
Daw’r rhybudd gan y gymdeithas ar ôl iddyn nhw fod yn trafod y sefyllfa â’r Swyddfa Dramor. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi annog pobl i beidio â theithio i'r gwledydd sydd ar Restr Oren, gan gynnwys Yr Eidal ac Azerbaijan.
Ond, mae Mr Løvgreen wedi dweud ei fod yn bwriadu teithio i'r gwledydd yma ar gyfer Euro 2020 UEFA.
"Dwi di cael y ddau frechiad, a wedyn dwi'n teimlo'n bersonol na fyswn i ddim mewn unrhyw beryg, dim mwy o beryg nac ydw i yn y wlad yma," meddai.
"Does 'na neb yn deutha ni i beidio mynd.
"Dwi a'n mrawd 'da ni di bwcio i fynd, a trefniadau wedi i gwneud a bob peth, wedyn na 'da ni dal i fynd."
Bydd Cymru’n wynebu'r Swistir ar 12 Mehefin, a Thwrci ar 16 Mehefin yn Baku, cyn teithio i Rufain i wynebu'r Eidal ar 20 Mehefin.
"Dwi'n siomedig bod Llywodraeth Cymru hefyd yn dilyn y r'un un trywydd achos mae o'n annheg iawn i Gymru, ma'r holl drefniadau wedi bod yn annheg," ychwanegodd Geraint Løvgreen.
"Ma cefnogwyr Lloegr yn cael trafeilio ag ma' nhw'n deud ŵan bod cefnogwyr Cymru, dim bo nhw ddim yn cael ond 'sa well i ni beidio.
"Wel dwi'm yn gweld o'n deg."
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans